Wythnos Carnifal Llanybydder 2022

60fed Carnifal Llanybydder ac wythnos yn llawn digwyddiadau.

gan Siona Evans
C916946F-4276-43F1-BC5E
28BE9EF9-B667-4620-989D
AD043109-5A60-401D-98A9
56ED4462-FD5C-48C8-95B9
5AFFF68D-361E-4278-9B86
7F2B6CD2-D2AD-4A44-9D40
50E79DF4-A1F3-4A0A-B051

Ar ddydd Sadwrn 25ain o Fehefin dathlodd Llanybydder ei 60fed carnifal ac roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn efo’r glaw yn sefyll bant.

Dechreuodd yr wythnos efo gymanfa ganu a Carys Griffiths-Jones yn arwain a nifer o dalentau’r pentref yn perfformio.

Nos Lun yr oedd yna fingo ac roedd y clwb rygbi yn llawn.

Nos Fawrth yr oedd yna helfa drysor ar droed, lle enillodd Clare, Gavin, Tommy, Rhian ac Elin y wobr.

Nos Iau yr oedd helfa drysor mewn car, lle enillodd Siona, Meinir, Emma a Bethan.

Nos Wener yr oedd yna gwis, lle enillodd tîm ‘Kevin the Pig’. Da iawn i bawb a diolch i bawb am gymeryd rhan.

Ar y fflot yn y carnifal roedd Amy Rees fel y Frenhines, Bronwen Miles ac Rinoa Farmer fel y morwynion, Lucjan Sczewzak-Glasson fel y Tywysog a Cadi Ann Cope fel y Tylwyth Teg. Yr oeddent yn edrych yn brydferth iawn.

Llywyddion y carnifal oedd Barry a Sheila Jones ac hoffai’r pwyllgor ddiolch yn fawr iddynt.

Gwisgodd pawb yn ffantastig ac yr oedd gwaith caled gan Barry a Sheila eu beirniadu. Enillodd Kimberly Rees wobr y wisg orau yn gwisgo fel Mary Poppins.

Nos Sadwrn yr oedd adloniant i’r plant gan Crazy Clayton ac yn dilyn efo cerddoriaeth o’r Beatles. Noswaith llawn hwyl i orffen yr wythnos.

Hoffai pwyllgor pentref Llanybydder ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac am wythnos lwyddiannus iawn.