Wythnos Cymorth Cristnogol 15-21 Mai 2022

Cyfarfod i drafod syniadau codi arian.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch yn Festri Capel Shiloh nos Fawrth 22 Mawrth.

Cadeiriwyd gan Twynog Davies a wnaeth ddiolch i Deborah Angel am ei gwaith ardderchog yn Drysorydd a chroesawu Shân Jones yn Drysorydd newydd. Croesawyd Alun Jones, Parc y Rhos i’w gyfarfod cyntaf. Cyflwynodd Twynog dusw o flodau i Deborah mewn gwerthfawrogiad. Yn y llun ceir Twynog a Deborah yn y canol gyda Shân ar y chwith ac Elaine Davies ar y dde, Ysgrifennydd gweithgar y Pwyllgor.

Byddwn yn cynnal nifer o weithgareddau ym Mai i gefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol. Bwriedir cynnal teithiau cerdded, Bore Coffi a Brecwast blasus i’w mwynhau yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol. Bydd capeli ac eglywsi’r ardal yn trefnu casgliadau. Bwriedir hefyd dosbarthu blychau casglu arian yn nifer o siopau a busnesau’r ardal fel bod cyfle i bob un sy’n dymuno gyfrannu at yr apêl.

Cewch mwy o fanylion am y gweithgareddau yn erthygl Elaine yn rhifyn Ebrill o Clonc. Cofiwch gael eich copi! Edrychwn ymlaen at gael eich cwmni yn y gweithgareddau ym Mai.