Wythnos Cymorth Cristnogol Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch

Oedfa Eglwys Sant Tomos Llanbed er budd Cymorth Cristnogol ac amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Cynhaliwyd yr oedfa fore Sul 15 Mai tan arweiniad y Parchedig Flis Randall, Gweinidog Eglwys Sant Tomos. Daeth cynulleidfa dda ynghyd i wrando ar ei neges ddaeth o Lyfr y Datguddiad. Cyfeiriodd at ‘Goeden Bywyd’ a chafodd y gynulleidfa gyfle i gyfrannu eu gweddïau ar y dail a’r ffrwythau papur a osodwyd yn negeseuon ar y goeden.

Diweddwyd yr oedfa gyda phaned, cacennau a mefus. Diolch yn fawr i aelodau Eglwys Sant Tomos am eu croeso hyfryd, i’r Parchedig Flis Randall am yr oedfa ac i bawb wnaeth gyfrannu tuag at y casgliad er budd Cymorth Cristnogol. Llun o’r danteithion a ddarparwyd gan Eglwys Sant Tomos yw’r ail lun uchod.

Yn y prif lun (o’r chwith i’r dde) mae Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Llanbed a’r Cylch, y Parchedig Flis Randall a Deborah Angel, Ysgrifennydd Eglwys Sant Tomos ac aelod o Bwyllgor Llanbed a’r Cylch. Cewch gyfweliad fideo gyda’r tri ohonynt isod.

Dyma rhai o’r gweithgareddau eraill er budd Cymorth Cristnogol:

  • 16 Mai: 10.00-12.00: Bore Coffi yng Nghanolfan Cwmann a drefnir gan Eglwysi Plwyf Pencarreg. Cynhelir raffl a bydd stondin yn gwerthu cacennau.
  • 18 Mai: 7.30-12.00: ‘Brecwast Mawr’ yn Festri Brondeifi a drefnir gan Gapel Brondeifi.
  • 18 Mai: 9.00-10.00: Taith gerdded hamddenol yn nhref Llanbed a drefnir gan Eglwys Sant Tomos. Cyfarfod ym maes parcio’r Coop a bydd y daith yn diweddu yn Festri Brondeifi i fwynhau’r ‘Brecwast Mawr’!

Cynhaliwyd Bore Coffi llwyddiannus yn Eglwys San Pedr bore Sadwrn 14 Mai. Bydd sawl capel ac eglwys yn cynnal casgliad arbennig yn yr oedfaon ym Mai yn cefnogi Cymorth Cristnogol. Cynhelir sawl taith gerdded ym Mai megis gan Undodiaid Dyffryn Aeron a’r Teifi a gan Fedyddwyr Cylch Gogledd Teifi. Byddant o gymorth i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ‘Her 300,000 o gamau’ Cymorth Cristnogol i gyrraedd y nòd hwnnw erbyn diwedd Mai.

Mae gan Bwyllgor Llanbed a’r Cylch dudalen ar wefan GiveStar ar gyfer derbyn rhoddion ar y we.

Dymuna Twynog Davies ar ran Pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbed a’r Cylch ddiolch i bob un sydd wedi trefnu cymaint o amrywiaeth o weithgareddau eleni. Mae’r diolch yn arbennig i bawb sy’n cefnogi Cymorth Cristnogol gyda’u rhoddion caredig tuag at yr elusen deilwng hon. Dyma ddywedodd yn ddiweddar am bwysigrwydd Cymorth Cristnogol yn Llanbed a’r Cylch:

‘Mae pawb ohonom fel Cristnogion yn teimlo dyletswydd i helpu’r di freintiedig a’r anghenus ymhle bynnag maent yn y byd. Da yw cael cofnodi fod y gwaith yn mynd yn ei flaen gyda phwyllgor gweithgar a brwdfrydig yn Llanbed a’r Cylch a braint yw bod yn Gadeirydd. Cofiwn fod gwaith Cymorth Cristnogol mor bwysig ag erioed yn y cyfnod heriol yma lle mae cymaint o angen nid yn unig yn y Wcráin a Zimbabwe, ond mewn nifer o wledydd tlawd y byd’.