Wythnos i fynd tan is-etholiad ward Llanbed

Dod i ’nabod ymgeiswyr is-etholiad Llanbed yn well.

gan Ifan Meredith

Hag Harris oedd yr unig gynrychiolydd o’r Blaid Lafur yng nghabinet Cyngor Sir Ceredigion ac yn dilyn ei farwolaeth tri mis yn ôl, mi fydd yr is-etholiad ar gyfer un sedd ward Llanbed yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, y 6ed o Hydref.

Gyda wythnos ifynd tan fydd trigolion Llanbed yn bwrw eu pleidlais, mae yna bedwar ymgeisydd, Dinah Mulholland (Llafur), Ann Bowen Morgan (Plaid Cymru), Sandra Jervis (Democratiaid Rhyddfrydol) a Lee Cowles (Annibynnol) yn ceisio ennill un o’r 38 sedd yng nghabinet Cyngor Sir Ceredigion.

Yn ystod y cyfnod galaru swyddogol, ni fu’r ymgeiswyr yn ymgyrchu, ond mae’n nhw yn barod i ateb cwestiynau am bynciau llosg Llanbed.

“Nid un am sefyll ar y cyrion ydw i”

Fel cynrychiolydd o’r Blaid Lafur, mae Dinah Mulholland yn gobeithio ad-ennill unig sedd Llafur Ceredigion. Mae Dinah Mulholland wedi bod yn byw yn Llanbed am ddegawd bellach ac yn weithgar iawn yn y gymuned gan reoli Marchnad Llanbed ac yn un o gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Datblygu Trawsnewid Llambed.

 

“sicrhau ffyniant yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol”

Mae Ann Bowen Morgan yn wyneb adnabyddus yn ardal Llanbed ac yn gweithio yn galed yn y dref. Mae Ann Bowen Morgan yn Gynghorydd Tref ers deng mlynedd, yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Deulu Llanbed ac yn gadeirydd ar Bwyllgor Gŵyl Ddewi a Phwyllgor Apêl Llanbed ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

“mae gen i’r profiad ac egni i wirioneddol brwydro dros ein tref”

Mae Sandra Jervis yn wyneb cyfarwydd ar Stryd Fawr Llanbed gan redeg siop ‘Creative Cove.’ Bu Sandra Jervis yn astudio yn y Brifysgol ac wedi cwmpo mewn cariad â Llanbed ers 17 mlynedd.

 

“gweithio’n ddiflino i derlio â materion”

Mae Lee Cowles yn ymgeisydd Annibynnol ar gyfer is-etholiad Llanbed. Fel rhan o ddiwydiant teithio’r ardal wrth redeg cwmni Tacsis ‘Fast Line’, mae yn gobeithio dileu taliadau parcio, hyrwyddo gweithgareddau yn Llanbed ac hefyd gweithio gydag elusennau lleol i helpu i gefnogi trigolion Llanbed i gael mynediad at wasanaethau Iechyd Meddwl.

Beth yw tri phrif bwynt Lee Cowles o’i faniffesto?

“Y tri phrif bwynt a phryderon o fy maniffesto yw bod:

Diffyg digwyddiadau ar gyfer trigolion y dref.

Diffyg cefnogaeth i Iechyd Meddwl.

Angen taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

A ydy holl flaenoriaethau Lee Cowles yn rhy uchelgeisiol?

“Ydw, dwi yn uchelgeisiol i gwblhau fy mlaenoriaethau i gyd ar fy maniffesto. Credaf fod rhain yn gallu cael eu cyflawni drwy weithio gyda’r trigolion lleol a busnesau Llanbed yn ogystal â’r Awdurdodau Lleol priodol.”

Os byddech yn derbyn grant o £1 miliwn o bunnoedd i’w ddefnyddio mewn unrhyw ffordd, beth byddech chi’n ei wneud gyda’r arian yma a pham?

“Un peth sylweddol mae Llanbed yn colli allan yw Lleoliad Hamdden. Mi fydden yn buddsoddi’r grant ar adeilad masnachol newydd a byddai’n cynnwys llain fowlio, ardal chwarae a chaffi. Mi fyddem yn adeiladu’r adeilad mewn man â digon o lefydd parcio ar gyfer pobl sy’n defnyddio’r cyfleusterau. Mi fyddai hyn yn creu swyddi newydd ar gyfer y trigolion lleol, yn man ar gyfer cyfarfodydd cymdeithasol i deuluoedd a ffrindiau ac yn dod â phobl i Lanbed. Mi fyddai hyn hefyd yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn darparu gweithgareddau ar gyfer trigolion Llanbed o bob oed i fwynhau a dod â refeniw ar gyfer tref Llanbed.”

Rydych yn crybwyll bod ‘pob llais yn cyfri’, sut fyddwch yn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed pe byddech yn cael eich ethol?

“Gwnaf i’n siwr bod pob llais yn cael ei glywed wrth fod yn bont ar gyfer cyfathrebu rhwng dau barti. Mi fyddaf yn sicrhau bod pob cwestiwn sydd wedi ei godi i mi yn cael atebion ac yn datrys y materion.”

Mewn cyfnod o newid mawr i Lanbed gyda datblygiadau cyffrous yn y dref, mae blaenoriaethau’r pedwar yn mynd i’r afael â’r problemau mwyaf cyfredol yn Llanbed. Ond, pa un o’r pedwar fydd yn fuddugol ac yn ennill sedd ward Llanbed yn y Cabinet?

Cynhelir Hystings er mwyn holi’r pedwar ymgeisydd ymhellach yn Neuadd Lloyd Thomas Prifysgol Llanbed ar ddydd Llun y 3ydd Hydref.  Croeso cynnes i bawb.  Noson yn dechrau am 7 o’r gloch.