Ydych chi’n ystyried sefydlu eich menter eich hun neu’n ymwneud â menter sy’n bodoli eisoes?

Cwrs rhad ac am ddim gan Ganolfan Tir Glas Llanbed

gan Hazel Thomas
7822D419-9A70-4452-B546

Ydych chi’n ystyried sefydlu eich menter eich hun neu’n ymwneud â menter sy’n bodoli eisoes?

Cynhelir cyrsiau rhad ac am ddim gan Ganolfan Tir Glas Llanbed sy’n cynnwys:

• Cyfuniad o ddysgu yn y dosbarth a dysgu seiliedig ar brofiad
• Cyfle i chi weithio gyda chyrff a mudiadau lleol
• Cyfle i chi ennill credydau academaidd a fydd yn caniatáu dilyniant i’r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Menter Gynaliadwy
• Cyfle i chi gryfhau eich sgiliau entrepreneuraidd

Bydd y cyrsiau hyn drwy gyfrwng Saesneg yn cael eu cynnal ar Gampws Llambed o fis Hydref i fis Rhagfyr eleni.

Menter Gynaliadwy: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Medi.

Datblygu Cymunedol: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 25 Hydref.

Datblygu Menter Gymdeithasol: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 25 Tachwedd.

Amfwy o wybodaeth cysylltwch â j.shore@uwtsd.ac.uk