Ymchwiliadau’n awgrymu bod anafiadau angheuol wedi eu hachosi gan gi

Cymuned Llanbed wedi ei syfrdanu gan farwolaeth John William Jones

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
DFB22D81-C834-4A1F-979C

Gwelwyd goleuadau glas y gwasanaethau brys yn Heol y Gogledd nos Lun.

Mae trigolion cymuned Llanbed wedi eu syfyrdanu gan farwolaeth dyn 68 oed yn Llanbed nos Lun.

Cadarnhawyd mai John William Jones oedd enw’r dyn a bod ymchwiliadau’r heddlu hyd yn hyn yn awgrymu y bu farw oherwydd anafiadau gan gi.

Gwelwyd cerbydau Heddlu ac Ambiwlans yn Ffordd y Gogledd wedi 5 o’r gloch brynhawn Llun.  Yn gynt yn ystod yr un prynhawn y bu aelodau Merched y Wawr Llanbed yn cwrdd yn y Clwb Rygbi, gyferbyn â’r cartref.  Ac ar y pryd doedd dim syniad gan neb beth oedd yn digwydd nac unrhyw amgyffred o ddifrifoldeb y peth.

Ond mae clywed newyddion mor erchyll am farwolaeth mor anffodus un o breswylwyr annwyl y dref wedi bod yn sioc i bawb.  Cydymdeimlir yn ddiffuant â’i deulu a phob un o’i gydnabod.