Ysgol Llanybydder yn derbyn canmoliaeth uchel gan arolygwyr Estyn!

Tîm Estyn, sy’n monitro addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn arolygu’r ysgol ym mis Mehefin gan nodi nifer o arferion da.

gan Gwyneth Davies

Dywedodd arolygwyr Estyn bod Ysgol Llanybydder, a oedd â 77 o ddisgyblion ar y pryd, ‘yn gymuned hapus, ddiogel a gweithgar’ gan ychwanegu, ‘Mae’r disgyblion yn hynod gwrtais ac yn falch iawn o’u hysgol a’u cymuned. Mae ganddynt lais ym mywyd yr ysgol ac y maent yn cydweithio’n effeithiol â’i gilydd ac oedolion wrth gynllunio profiadau dysgu cyfoethog’.

Pwysleisiwyd mai, ‘Un o nodweddion cryfaf yr ysgol yw’r awyrgylch gartrefol a’r ffordd garedig ac addfwyn mae llawer o’r disgyblion hynaf yn gofalu am eu cyfoedion ieuengaf.’

Dywedwyd hefyd, ‘Mae’r ysgol yn gwrando ar lais y disgyblion ac yn eu cefnogi pan fo angen. Er enghraifft, cefnogodd y llywodraethwyr gais y disgyblion i’r awdurdod lleol i wella cyflwr y ffordd tu allan i’r ysgol. Yn dilyn llythyr manwl gan ddisgyblion yn nodi cyflwr annerbyniol y ffordd, trefnodd yr awdurdod i’r ffordd gael ei thrwsio ar frys.’

Canmolwyd y staff, yr arweinwyr, y llywodraethwyr a’r rhieni:

‘Mae staff yr ysgol yn dîm cydwybodol sy’n gweithio’n ddiwyd i gefnogi lles a chynnydd pob disgybl. Mae’r arweinwyr yn adnabod blaenoriaethau gwella yn synhwyrol ac yn monitro a gwerthuso’r cynnydd yn fedrus. Mae’r llywodraethwyr yn weithredol yn holl weithgareddau’r ysgol ac yn cefnogi a herio’r pennaeth yn effeithiol. Mae gan yr ysgol berthynas fuddiol â rhieni sy’n cefnogi lles ac addysg eu plant yn effeithiol.’

Cafodd y pennaeth ei ganmol yn fawr hefyd:

‘Mae arweinyddiaeth gref y pennaeth yn gosod disgwyliadau uchel sy’n cael eu hadnabod gan ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni.’

Yr Argymhellion ar gyfer gwella:

‘Darparu cyfleoedd cyson i ddisgyblion ddatblygu eu medrau ysgrifennu estynedig’ a ‘Gwella safon llawysgrifen a chyflwyniad gwaith disgyblion.’

Dywedodd Gareth Jones, y Pennaeth:

‘Ry’n ni’n hapus iawn â’r adroddiad hwn. Mae’n adlewyrchiad cywir o’r ysgol ac fel pennaeth, rwy’n hynod falch o’r staff ac yn enwedig y disgyblion.’ Ychwanegodd, ‘ Mae’n heriol i arwain ysgol fach wledig, yn enwedig gyda llai o gyllid. Ond mae’r adroddiad hwn yn dystiolaeth mai gyda staff diwyd a gweithgar ac arweinyddiaeth effeithiol, mae modd rhoi’r addysg orau bosib i’n disgyblion.’