Hen Ysgol Llanybydder

Cyn-ddisgyblion yn dwyn atgofion am fywyd plentyndod.

gan Gwyneth Davies
Plant yr Ysgol

Digon o storïau y mis hwn eto am fywyd Llanybydder yn y dyddiau a fu. Dyma atgofion ambell gyn-ddisgybl:

Elonwy Davies – ‘Eluned Evans a Deliah Jones oedd yr athrawon pan o’n i yn yr ysgol a Mr A.J Thomas oedd y pennaeth. Mrs Price a Miss Jacob wedyn oedd y cogyddion. Un atgof bore oes sydd gen i yw bod yn rhan o Urdd y pentref. Ro’n i’n aelod o’r côr, y grŵp cydadrodd a’r band. Un flwyddyn, a minnau’n arwain y band, fe fwres i’r baton, yn ddamweiniol wrth ei chwifio, yn erbyn drwm Marian Price gan ei bod hi yn aros tu blaen. Mae hynny wedi aros yn fy nghof tan heddiw. Gan fy mod i a Dulcie fy chwaer yn byw yng ngwaelod y pentref, ro’n ni’n cael tacsi i’r ysgol. Dw i ychydig yn hŷn na Dulcie ac felly, wrth reswm, roedd yn rhaid i fi ddechrau’r ysgol ynghynt. Wel, do’n i ddim yn hapus o gwbl am hynny ac wrth styfnigo, dw i’n cofio cicio teiars y tacsi gan wrthod yn llwyr mynd mewn. Atgof arall sydd gen i o ddyddiau ysgol yw mam yn dod â bwyd i mi pan o’n ni’n cael picnic ar lan yr afon Teifi. Doedd dim teledu gyda ni wrth gwrs yn yr ysgol ond dw i’n cofio gwrando ar ‘Gari Tryfan’ ar y radio.’

Jean Davies – ‘Un peth dw i’n cofio’n arbennig yw Mari Rees yn dod mewn i’r ysgol i gael gair bach â’r prifathro. Fe droiodd e aton ni wedyn gan ddweud, ‘ Stand up, bow your heads, the King is dead!’

Dulcie James – ‘Ro’n i’n groten fach ddrwg iawn pan o’n i’n fach ac mae’n siŵr bod y stori gyntaf sydd gen i i’w hadrodd i chi wedi aros yng nghof fy rhieni am amser hir. Un diwrnod, credwch neu beidio, a hynny cyn i mi ddechrau’r ysgol,  fe benderfynais i gerdded ar ben wal pont Teifi. Doedd dim syniad gan mam  ble ro’n i ond roedd yna dystion diolch i’r drefn. Roedd Mrs Sturdy y siop esgidiau yn eistedd tu fas i’w siop ar y pryd a syndod o’r mwya iddi hi oedd gweld y fath olygfa. Roedd Mrs Evans, y Vale of Teifi yno hefyd ond cau ei llygaid mewn dychryn oedd hi gan ofidio bod fy niwedd wedi dod. Beth bynnag, o dipyn i beth, fe lwyddodd Mrs Sturdy  gerdded tu ôl i fi a fy nal. Rhyddhad mawr i bawb felly oedd gweld fy mod yn ddiogel. Ces row ofnadwy pan gyrhaeddais i adre ac mae’n siŵr mai’r digwyddiad yma ddylanwadodd ar benderfyniad fy rhieni i’m gyrru i’r ysgol trannoeth.’

Eluned Evans oedd fy athrawes gynta i ac yn rhyfedd o beth, dw i’n cofio’n iawn o hyd pa fath o arogl oedd gan y bocs pensiliau a oedd ganddi ar ei desg. Roedd arogl gwahanol gydag e rywsut a dyna pham, mae’n debygol, bod yr arogl wedi aros yn y cof. Dim ond rhyw fodfedd neu ddwy oedd ambell bensil a oedd yn y bocs cofiwch.  Peth arall dw i’n cofio yw’r abacws mawr a oedd gyda ni yn y dosbarth. Roedd hwnnw’n cael ei ddefnyddio bob bore i rifo bob yn bump a bob yn ddeg a hynny trwy gyfrwng y Saesneg wrth gwrs. Doedd dim llawer o bethau gyda ni i chwarae a dweud y gwir. Ond, dw i’n cofio’r tray fach bren sgwâr gyda thamaid o dywod tu mewn. Lwmpyn o glai wedyn gyda phob lliw wedi gwau i’w gilydd ynddo a hwnnw’n galed i gyd. Dw i’n cofio bod y clai yn cael ei gadw yn y cwpwrdd. Roedd dwy iard gyda ni – un ar gyfer y bechgyn a’r llall ar gyfer y merched. Roedd diwrnod torri’r borfa yn gyffrous iawn hefyd achos ro’n ni wrth ein boddau yn rholio yn y cae amser chwarae gan ddod mewn i’r ysgol yn borfa i gyd. Druan o’r athrawon! Mae’n siŵr ein bod ni wedi cael sawl row!

Yr un cwestiwn oedd gan mam bob nos ar ôl i fi ddod adre o’r ysgol sef ‘gest ti glatshen heddi?’ Yr ateb roies i i mam un diwrnod oedd ‘ na ches i ddim clatshen heddi ond ges i shifflad o’r ddesg i’r drws!’ Ond er fy mod i’n ddrwg yn yr ysgol, fe ges i adroddiad arbennig gan Miss Eluned Evans fy athrawes gyntaf. Fe ddywedodd ‘Mae Dulcie’n ferch fach dda iawn.’ Mewn llawysgrifen oedd yr adroddiadau blynyddol a dw i’n cofio bod llawysgrifen arbennig gan Miss Eluned Evans. Mae gen i gof am wneud un gân actol a ‘Bachgen bach o Ddowlais’ oedd y teitl a dyma’r geiriau:

Bachgen bach o Ddowlais draw,

Oedd bron â thorri’i galon,

Yn chwilio am ryw eneth lan

I’w briodi ef yn union.

Cytgan

Dewch, a ddewch chi gyda fi?

Dewch, a ddewch chi gyda fi?

Dewch, a ddewch chi gyda fi?

Mae’n unig wrth fy hunan.

Doedd iechyd a diogelwch ddim yn bodoli pan o’n i yn yr ysgol. Adeg cyngherddau, yn enwedig cyngherddau Nadolig, gwthiwyd ein desgiau ni yn erbyn un wal gan roi styllod pren drostynt. Gyda grisiau wedyn yn cael eu rhoi ar un ochr, roedd y llwyfan yn barod ar gyfer perfformiad. Doedd dim llawer o lyfrau gyda ni gartre ond mae gen i atgof am un llyfr yn arbennig. Llyfr carolau Saesneg oedd e a’r rheswm bod hwnnw wedi aros yn y cof yw oherwydd bod Miss Evans am ei fenthyg yn flynyddol gan ddewis o leia un gân allan ohono er mwyn i ni i gyd gael canu. Wel wel- ro’n i’n meddwl bo fi’n bwysig iawn oherwydd bod Miss Evans yn cael benthyg fy llyfr carolau i.

Y dosbarth nesaf oedd dosbarth Miss Deliah Jones a storïau Enid Blyton o’n ni’n cael gyda hi bob nos cyn mynd adre. Dw i’n cofio bod sôn am winwns yn un o’r storïau a fy mod i bron starfo wrth glywed am y ‘juicy onions.’ Pan fyddai’r gloch yn canu am hanner awr wedi tri, bant â fi ar droed gan alw gydag Anti Mari’r Felin ( tŷ i lawr y lôn fach gyferbyn â’r hen laethdy) a hithau’n rhoi tafell o fara menyn i fi gan fy mod yn starfo. Rhaid oedd bwyta’r dafell yn araf bach cofiwch gan sicrhau ei bod yn para’r holl ffordd adre.’

Er mwyn darllen mwy o atgofion am yr hen ysgol, mynnwch gopi o rifyn cyfredol Papur Bro Clonc sydd ar werth nawr mewn siopau lleol ac ar gael hefyd fel tanysgrifiad digidol ar y we.