Erthygl gan Richard Vale
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru “ymadrodd byr sy’n mynegi rheol buchedd, ffordd o fyw neu athrawiaeth person neu sefydliad” ydy arwyddair, a dyma i chi rai enghreifftiau adnabyddus:
Golud, Gwlad, Rhyddid (Cyngor Ceredigion); Gorau Chwarae Cyd Chwarae (Cymdeithas Pêl-droed Cymru); Nid byd, byd heb wybodaeth (Prifysgol Aberystwyth).
Bues i’n stiwardio yn Rali’r Cyfri yng Nghaerfyrddin ar 14eg Ionawr ac yn ddigon ffodus i glywed geiriau doeth Dafydd Iwan wrth iddo gloi’r digwyddiad o flaen adeilad Llywodraeth Cymru yn y dref:
Dim ond iaith sydd gyda gwên ar ei hwyneb sy’n mynd i fyw.
Mae sawl ffordd o ddehongli’r geiriau hyn: bod angen creu Cymru lle mae pawb yn mwynhau byw, ein bod ni fel siaradwyr Cymraeg yn groesawgar, ac i fi yn bersonol fel tiwtor Cymraeg bod ein siaradwyr newydd yn teimlo’n ddigon hyderus a hapus i groesi’r bont i ddod yn aelodau cyflawn o’n cymunedau.
Petaswn i’n cael dewis arwyddair ar gyfer fy ngwaith, geiriau Dafydd Iwan fyddai hwnnw.
Yr wythnos wedyn, gofynnais i fy nosbarthiadau Gloywi feddwl am arwyddair personol, ac fe dderbyniais lwyth o enghreifftiau dwys a doniol, ond mae un cyfraniad yn haeddu llwyfan fwy.
Cerdd ysgrifennodd Ian Rouse, Cymro sy’n byw yn Dudley ger Birmingham, a dyma fe’n esbonio ei ddewis:
Aeth Gareth Edwards i ymweld â Barry John yng Nghaerfyrddin cyn eu gêm gyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 1967: Gareth fel mewnwr a Barry fel maswr. Eu bwriad oedd ymarfer tipyn bach ar gae rygbi Coleg y Drindod lle’r oedd Barry yn astudio ar y pryd, ond yn anffodus doedd y tywydd ddim yn dda a doedden nhw ddim yn ffansïo mynd mas yn y glaw i ymarfer, felly dywedodd Barry frawddeg sy wedi dod yn enwog , chwedlonol hyd yn oed: ‘Twla di fe; ddala i fe’.
Aeth y ddau ymlaen i gael llwyddiant ysgubol wrth gwrs: yn chwarae ddau ddeg tair o weithiau dros Gymru gyda’i gilydd a dros y Llewod Prydeinig yn Seland Newydd yn 1971.
Roedd pawb ym myd rygbi yn edmygu eu partneriaeth a’r ddealltwriaeth rhwng y ddau. Roedden nhw wastad yn cyfathrebu ar y cae rygbi yn Gymraeg wrth gwrs.
Twla di fe; ddala i fe
Aeth Gareth i Gaerfyrddin,
I gwrdd â Barry John,
Cyn chwarae eu gêm gyntaf,
Partneriaeth newydd sbon,
Ond doedd y tywydd ddim yn braf,
Oerfel, gwynt a glaw,
Doedd dim hwyl gyda’r bechgyn,
I hyfforddi yn y baw.
‘Twla di fe; ddala i fe’,
Dyna wnaeth Barry weud,
‘Twla di fe; ddala i fe’
‘Na i gyd ni’n gorfod neud.’
Aeth y bechgyn o Gwm Gwendraeth,
Ymlaen i goncro’r byd,
Llewod yn Seland Newydd,
Bois y cwm yng nghyd,
Eu harf dirgel oedd yr iaith Gymraeg,
O’n nhw’n siarad ar y cae,
Tactegau, cyfarwyddiadau,
Popeth rhwng y ddau.
‘Twla di fe; ddala i fe’,
Dyna wnaeth Barry weud,
‘Twla di fe; ddala i fe’
‘Na i gyd ni’n gorfod neud.’
Rydyn ni i gyd yn tueddu i orfeddwl pethau, on’d ŷn ni?