Wrth yrru i mewn i Lanybydder o gyfeiriad Drefach ar y B4338, buan y gwelwch fod yr arwyddion 20mya wedi cael eu chwistrellu. Daeth y terfynau cyflymder 20mya i rym Ddydd Sul, Medi 17eg drwy Gymru gyfan. Cafwyd ymateb chwyrn i’r penderfyniad hwn o’r cychwyn cyntaf gyda nifer fawr wedi gweithredu yn yr un modd mewn ardaloedd eraill ar draws Cymru.
Dyma a ddywedodd Cynghorydd Sir Ceredigion, Elizabeth Evans:
“Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn yr arian i godi’r arwyddion ar ran Llywodraeth Cymru. Mae gan bawb farn ar yr arwyddion yma, ond mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gorfod gweithredu o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru. A dim ond unwaith y bydd yr awdurdod yn cael y cyllid hwnnw. Felly pwy bynnag sy’n gwneud y difrod, ry’ch chi’n ychwanegu at faich treth cyngor trethdalwyr Ceredigion.”
Dywedodd Denise Owen, Cynghorydd Sir Gâr, Ward Llanybydder:
“Beth bynnag yw barn pobl am yr 20mya, dyma’r gyfraith erbyn hyn. Mae herio a difrodi arwyddion yn drosedd, ac yn un sy’n effeithio ar eich cyngor lleol, nid Llywodraeth Cymru. Diolch i Blaid Cymru, mae’r polisi’n cael ei adolygu’n barhaus a dylai pobl aros i weld beth sy’n datblygu. Yn sicr ni ddylent fod yn dinistrio neu fandaleiddio eiddo.”
Amcangyfrifir bod dros 30,000 o arwyddion ffyrdd yn cael eu newid yng Nghymru ar gost o £32 miliwn. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i leihau cyfyngiadau cyflymder o 30mya mewn ardaloedd preswyl adeiledig gyda’r bwriad o achub bywydau a thorri costau i’r GIG.
Ond, mae deiseb sydd wedi ei chyflwyno i’r Pwyllgor Seneddol dros ddeisebau yn galw ar lywodraeth Cymru i gael gwared ar y terfyn cyflymder newydd o 20mya. Mae’r ddeiseb bellach wedi cyrraedd dros 170,000 o lofnodion (Dydd Mawrth, Medi 19) sy’n golygu bod y pwnc yn medru cael ei ystyried am ddadl yn y Senedd.
Yn ôl y ddeiseb:
‘Mae Llywodraeth Cymru’n honni bod ganddi dystiolaeth ategol bod gostwng i 20mya ym mhobman yn achub bywydau. Fodd bynnag, maent wedi methu â chyflwyno unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol i gefnogi’r honiadau hyn.’