Blwyddyn yn hwyr i gael ei hurddo i’r Orsedd

Dim Gemau’r Gymanwlad eleni, felly’r Eisteddfod amdani i Anwen Butten

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
936291EF-7BFA-4289-BA86

Anwen fel Capten Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022.

B02EE833-A61B-462C-9536-03D1C0287EEE

Anwen yn arwain Parêd Gŵyl Dewi Llanbed.

4CCD9732-A898-4468-BD1A-8A6E5DB5F0E4

Anwen yn cyflwyno gwobr am y siop orau.

Cyhoeddwyd y bydd Anwen Butten o Gellan yn cael ei hurddo i’r wisg las mewn seremoni Gorsedd Cymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Dywedodd Anwen,

“Rwyf yn hynod o falch ac yn prowd iawn o gael yr y cyfle yma i ymuno ar orsedd. Rwyf yn ei gweld yn fraint ag anrhydedd i gael y gwahoddiad ac rwyf i ar teulu yn edrych mlaen yn fawr ir Steddfod yn Mis Awst ac i mi gael fy urddo yn y wisg las.”

Roedd Anwen i fod cael ei hurddo yn Eisteddfod Ceredigion y llynedd yr un pryd â Mary Davies ac Ann Bowen Morgan, ond cynhaliwyd Gemau’r Gymanwlad ym Mirmingham yr un pryd.  Anwen oedd capten tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, ac felly methodd â mynd i Dregaron ar gyfer seremoni’r Orsedd.

Cyhoeddir ar wefan Gorsedd Cymru,

Bowls sy’n mynd â bryd Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan, ac mae’r Orsedd yn falch o’r cyfle i’w hanrhydeddu am ei chyfraniad arbennig i’r gamp honno dros gyfnod o 30 mlynedd. Hi oedd Capten Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2022. Mae Anwen hefyd yn nyrs arbenigol cancr y pen a’r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Felly, llongyfarchiadau Anwen.  Gwell hwyr na hwyrach.  Er bydd y daith yn hirach i ardal Llŷn ac Eifionydd nag i Dregaron, bydd hi’n tipyn agosach i gartref na Birmingham!