8. Gareth a Linda Harries, Compass Office Supplies – y flwyddyn a fu

Dyma’r wythfed mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Mae’n flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Mae Gareth a Linda Harries yn rhedeg busnes Compass Office Supplies sydd wedi ei leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr iddynt am ateb y cwestiynau.

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

’Rydym yn cyflenwi nwyddau o bob math i swyddfeydd, busnesau a chartrefi. Un o’r heriau mwyaf sydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf yw cael stoc i’r siop. Pan ’roedd y stoc oedd yn y wlad yma wedi ei werthu, aeth y ‘lead time’ o ddyddiau yn fisoedd. ’Rydym dal i aros am gyflenwad o argraffyddion i’n cyrraedd ers mis Medi diwethaf! ’Rydym yn dechrau gweld mwy o nwyddau yn cael eu gwneud yn y Deyrnas Unedig. Her arall oedd cadw ein cwsmeriaid sy’n galw yn y siop yn ddiogel yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

Mae yna fwy o bobl yn gweithio o gartref yn y flwyddyn ddiwethaf. Golyga hynny ein bod yn galw mewn mwy o dai gyda llai o nwyddau.  Byddem o’r blaen yn mynd ag un llwyth i swyddfa mewn un lleoliad.

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

’Rydym wedi dysgu dros y cyfnod clo bod rhaid cadw llawer mwy o stoc ar y silffoedd fel nad yw pethau’n mynd yn brin. ’Rydym hefyd wedi gweld bod pobl am gefnogi busnesau lleol cyn gymaint ag sy’n bosibl. ’Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl gymuned am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn.