Côr Pam Lai yn camu i’r llwyfan eto.

Gydag wythnos i fynd tan Cyngerdd Côr Pam Lai?, dewch i ddysgu am y côr a’r gyngerdd arbennig hwn.

gan Ifan Meredith
98A3B214-71A1-4927-B5E0-4C276D5B9E49

Daeth y syniad fel nod i’r côr ar gyfer y flwyddyn newydd ac rydym yn falch i gefnogi elusen eto yn dilyn llwyddiant ysgubol y Cyngerdd gynhaliwyd Cyn Cystadlu yn Eisteddfod Tregaron.

Mae modd archebu tocynnau o’r cyswllt sydd ar y poster neu hefyd ar gael wrth y drws gyda’r elw’n mynd tuag at elusen Cancr y Coluddyn (Bowel Cancer).

“Roedd Taid yn ganwr côr brwd yn ardal Rhosllannerchrugog ac roedd yn gweld potensial yn ein côr ni ac yn fy annog i gael y côr i barhau i ganu.”

Mae elusen Cancr y Coluddyn (Bowel Cancer) yn agos iawn at galon y côr gyda thad-cu yr arweinyddes yn marw o’r afiechyd ym mis Awst llynedd. Cafodd 16,808 o fywydau eu colli rhwng 2017 a 2019 ac mae’r elusen yn gwneud gwaith hollbwysig wrth amlygu’r symptomau a lleihau marwolaethau yn y 54% o’r achosion ataliadwy.

“yn gwerthfawrogi y cymorth a’r gofal gafodd gan y nyrsys ac yn awyddus i ymchwil pellach gael ei wneud i achub bywydau yn y dyfodol.”- Sara Davies, Arweinyddes y côr yn siarad am y cymorth cafodd ei thad-cu a fu’n dioddef o gancr y Coluddyn.

Yn ystod y noson bydd amrywiaeth o ganeuon ac eitemau unigryw yn eich disgwyl yn neuadd Ysgol Bro Pedr nos Wener, yr 20fed o Ionawr.

98A3B214-71A1-4927-B5E0-4C276D5B9E49

“Bydd caneuon newydd cyffrous gan y côr yn ogystal ag eitemau amrywiol gan unigolion amryddawn iawn. Dwi’n sicr bydd rhywbeth at ddant pawb! Dewch i ymuno gyda ni- rwy’n siwr newch chi  fwynhau !”- Hywel Roderick, Cadeirydd y côr.