Canolfan Lles newydd Llanbed yn agor ddydd Llun

Wedi 10 mis o aros, bydd cyfleusterau newydd sbon ar gael i bawb

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Dros y deg mis diwethaf trawsnewidiwyd Canolfan Hamdden Llambed, gan newid cynllun mewnol yr adeilad i fod yn Ganolfan Lles gyntaf Cyngor Ceredigion.

Yn ystod y cyfnod hwn, defnyddiwyd y cyfleusterau ar gampws y Brifysgol, ond o ddydd Llun ymlaen, agorir y Ganolfan Lles newydd lle cynigir sesiynau ystafell ffitrwydd, dosbarthiadau ymarfer corff a defnydd o’r neuadd chwaraeon.

Bu cryn wrthwynebiad yn lleol i’r cynllun newydd yn nyddiau’r ymgynghori, ond gyda’r lle ar ei newydd wedd, tybed beth yw’r ymateb erbyn hyn?

Mae’r ystafell ffitrwydd wedi ei diweddaru’n sylweddol a bydd staff y Ganolfan yn gallu cynghori aelodau ar addasrwydd yr offer.  Yn dilyn hyfforddiant staff pellach gellir cynnig mwy o arweiniad a chyngor.

Mae ffenestri mawr wedi eu gosod ym mlaen yr adeilad gan wneud y lle yn gwbl agored a deniadol.  Mae derbynfa fawr groesawgar yno a’r ystafell ffitrwydd wedi cymryd lle rhan o’r hen neuadd chwaraeon.

Dywedodd Maer Llanbed, y Cynhorydd Rhys Bebb Jones am y datblygiad,

“Dewiswyd Llanbed yn lleoliad y Ganolfan Lles gyntaf yn y sir gan Geredigion. ‘Rydym yn falch bod y gwaith adeiladu ar ben a’i bod bellach yn agor i’r cyhoedd ei defnyddio.”

Er nad yw’r adeilad yn gwbl weithredol eto, gallwch weld y lle yn parhau i esblygu wrth i chi ymweld dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Dywedodd Rhidian Harries, Rheolwr Tîm Canolfannau Lles Canolbarth a De,

“Gofynnwn am eich amynedd wrth i ni barhau i weithredu’r newid sylweddol hwn i’n gwasanaeth.

Diolch i chi gyd am aros gyda ni dros y 10 mis diwethaf ac rydym yn hyderus pan fyddwch yn gweld y cyfleusterau yn y Ganolfan Lles newydd ei bod yn werth yr aros.”