Tîm Rygbi Llanbed yn bencampwyr Adran 3

Llanbed 35 Sanclêr 27

Gary Jones
gan Gary Jones

Dyma ychydig o ddelweddau cyflym o’r gêm rygbi ddoe rhwng Llanbed a Sanclêr.

Gallai’r naill dîm neu’r llall fod wedi codi’r gwpan ond yn y diwedd daeth Llanbed i’r brig yn bencampwyr Adran 3 ar ôl uffern o gêm o’r radd flaenaf.  Da iawn Llanbed a’r cyfnogwyr lleol.

Y sgôr terfynol oedd Llanbed 35 – 27 Sanclêr.

Sgoriwyd y ceisiadau gan Jac Williams, Ewan Bowden, Guto Ebbsworth a Gethin Davies gydag Osian Jones yn cicio dros y pyst.

Llogyfarchiadau calonnog ar eich dyrchafiad i’r adran nesaf.