DATHLU’R AUR
gan Gillian Jones
(darllenwyd y gerdd yn y parti)
O mor braf yw cael y cyfle
I ymgynnull ar y daith,
I gael dathlu pumdeg mlynedd
O weithredu dros yr iaith.
Nôl yng nghynnwrf y saithdegau
Deffrowyd ardal Llanbed gron,
“Rhaid i ni gefnogi’r ysfa
I wneud gwaith drwy’r iaith yn llon”.
Casglwyd enwau merched teilwng
I fwynhau a chreu mewn cân,
Hybu llên a chrefft diwylliant –
Dros y Mudiad roent ar dân.
Beti oedd y llywydd teilwng
Gyda Beryl law-yn-llaw,
Ann, Elizabeth a Dilwen
Crewyd pwyllgor praff, difraw.
Dechrau cwrdd fan hyn yn union
Wnaed pumdeg mlynedd nôl,
Ninnau heddiw’n cau y cylchdro
Gyda’r Mudiad yn ein côl.
Pwyllgor gwaith yn rhan o’r trefnu,
Enwau rhai sydd yma nawr –
Avril, Morfudd, Pat ac Eryl,
Gwenda hefyd ar y clawr.
Rhaglen drwy’r Gymraeg yn unig
A’r cofnodi yr un modd,
Canu’r anthem o waith Jacob
A’r aelodau wrth eu bodd.
Wedyn baner gan law gywrain –
Diolch Rosemary am y gwaith,
Ac ymroddiad pob un aelod
Yn hwyluso trefn y daith.
Sgwrs a darlith, drama, canu
Gwau, gwnio a choginio,
Teithio, gwledda a chystadlu –
Creu amrywiaeth drwy gydweithio.
Hanner canrif rôl creu sylfaen
Mae y trawstiau yn rhai praff,
Miloedd o aelodau gweithgar
yn cydweld, a’r iaith yn saff.
Ac yng ngeiriau’n harwr oesol
Cydlefarwn ni i’r byd,
O odyn – yn reit i wala
Ryn ni yma – ryn ni yma o hyd!