Cwmpo i gysgu ynghanol rowndabowt 

Y linesman o Lanybydder sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ifan-John Davies o Lanybydder sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc.  Mae e’n gwneud ei brentisiaeth gyda National Grid ar hyn o bryd.

Dyma flas i chi o’r hyn sydd ganddo i’w rhannu:

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Cwmpo i gysgu ynghanol rowndabowt yn Aberystwyth ar nosweth allan da’r bois.

Beth yw’r siopau annibynnol lleol wyt ti’n ymweld â nhw fwyaf aml a pham?
Popty Llanybydder (Gwalia) – mae’r ‘chicken burger’ yn ffein.

Beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden?
Chwarae rygbi i glwb Llanbed, a chware darts ’da’r bois i glwb Llanbed.

Pryd llefaist ti ddiwethaf?
Wrth golli Mamgu

Ar beth y gwnest orwario arno fwyaf?
Naiomi adeg y Nadolig.

Beth yw’r peth diwethaf wyt ti’n ’neud cyn mynd i’r gwely?
Neud yn siŵr bod y bocs bwyd wedi’i neud ar gyfer y gwaith drannoeth.

Mynnwch gopi o rifyn cyfredol Clonc er mwyn darllen mwy.  Mae Clonc ar werth yn y siopau lleol neu drwy danysgrifiad digidol ar y we.