Cyfle i ddweud eich dweud am Ysbyty Newydd Hywel Dda.

Ymweliad Ymgynghoriad Ysbyty Newydd Hywel Dda â Llanbed dydd Iau yn gyfle i dderbyn barn yr ardal.

gan Ifan Meredith

Fel rhan o gynllun Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddatblygu’r ddarpariaeth iechyd ar draws y tair sir, mi fydd yna ysbyty newydd yn cael ei adeiladu gyda’r cyfleusterau diweddaraf. Ers 2018, bu ymgynghoriadau amrywiol i gwtogi’r 5 safle wreiddiol yn ardaloedd Hendy-gwyn ar Daf, Sanclêr a Narberth i dri yn Sanclêr, Tŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf a Gerddi’r Ffynnon, Hendy-gwyn ar Daf.

Yn ddiweddar, lansiwyd ymgynghoriad sy’n holi i’r cyhoedd pa un o’r tri safle yw’r gorau a pham? Yn ychwanegol, mi fydd arbenigwyr y bwrdd iechyd yn bresennol yn Neuadd Fictoria, Llanbed rhwng 2yp a 7yh dydd Iau, yr 11eg o Fai er mwyn ateb cwestiynau pobl ardal Clonc360 am y datblygiad.

Yn ôl dogfen ‘Canolbarth a Gorllewin Iachach’, rôl yr ysbyty newydd fyddai i ddarparu gofal argyfyngol a gofal wedi ei gynllunio yn ne’r bwrdd iechyd. Yn ychwanegol, mi fydd ymgynghorwyr iechyd ar y safle 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Nod Ysbyty Bronglais, Aberystwyth fydd i ddarparu gofal brys a gofal wedi ei gynllunio tra fydd yr achosion mwyaf difrifol yn cael eu cludo i’r ysbyty newydd. Mi fydd Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli yn darparu gofal mân-anafiadau drwy feddyg teulu 24/7 gyda gwasanaeth gofal i oedolion mewn argyfwng a phrofi. Yn debyg i Ysbyty Tywysog Phillip, mi fydd Ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd yn darparu unedau mân-anafiadau dan ofal meddygon teulu 24/7. Yn ogystal, mi fydd profion, therapi yn ogystal â gofal nyrsys gyda’r gwelyau yn cael eu defnyddio er mwyn adferiad yn yr ysbytai yma.

Dyma grynodeb o’r tri safle arfaethedig:

Tŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf

Sgôr grŵp benodol o’r cyhoedd yn edrych ar ddogfennau dechnegol : 366.

Sgôr y risgiau gan arbenigwyr technegol : 144.

Ystadegau yn seiliedig ar Olau Glas ar Ddydd Gwener 8yb:

7% o’r boblogaeth â mynediad 999 cyflymach i’r Adran Achosion Brys.

Cynnydd o 9 munud ar gyfartaledd.

Gerddi’r Ffynnon, Hendy-gwyn ar Daf

Sgôr grŵp benodol o’r cyhoedd yn edrych ar ddogfennau dechnegol : 373.

Sgôr y risgiau gan arbenigwyr technegol : 145.

Ystadegau yn seiliedig ar Olau Glas ar Ddydd Gwener 8yb:

7% o’r boblogaeth â mynediad 999 cyflymach i’r Adran Achosion Brys.

Cynnydd o 9 munud ar gyfartaledd.

Sanclêr

Sgôr grŵp benodol o’r cyhoedd yn edrych ar ddogfennau technegol : 372.

Sgôr y risgiau gan arbenigwyr technegol : 145.

Ystadegau yn seiliedig ar Olau Glas ar Ddydd Gwener 8yb:

6% o’r boblogaeth â mynediad 999 cyflymach i’r Adran Achosion Brys.

Cynnydd o 6 munud ar gyfartaledd.

Cofiwch fydd arbenigwyr y bwrdd iechyd yn bresennol yn Neuadd Fictoria, Llanbed rhwng 2yp a 7yh dydd Iau, yr 11eg o Fai er mwyn ateb cwestiynau pobl ardal Clonc360 am y datblygiad.