Cymysgwch ynglyn â threfniadau casglu gwastraff newydd

Rhai biniau heb eu casglu a bocsys duon ar gyfer gwydrau heb eu dosbarthu yn Sir Gâr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Cllr-Edward-Thomas-glass-collection-

Heddiw, 23 Ionawr, oedd dechrau ar drefniadau newydd Cyngor Sir Caerfyrddin i gasglu gwastraff er mwyn ceisio cynyddu casgliadau ailgylchu ond doedd pethau ddim wedi mynd yn ôl y disgwyl.

Byddwn yn casglu eich bagiau glas ar gyfer eich deunydd ailgylchu sych bob wythnos, ochr yn ochr â’ch bin gwyrdd ar gyfer eich gwastraff bwyd.

Ond ni chasglwyd gwastraff bwyd o’r bin gwyrdd mewn rhannau o Gwmann heddiw.

Byddwn yn casglu eich bagiau du, ar gyfer eich gwastraff cartref sy’n weddill na ellir ei ailgylchu, bob 3 wythnos. Gallwch roi hyd at 3 bag du allan bob 3 wythnos.

Mae preswylwyr wedi derbyn pecyn gwybodaeth a chalendr casglu, sydd yn egluro’r newidiadau i’r gwasanaeth ac yn dangos yn glir eu dyddiadau casglu ar gyfer 2023.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cyflwyno gwasanaeth casglu newydd ar gyfer poteli gwydr a jariau, a fydd yn cael eu casglu bob 3 wythnos. I’r cartefi sydd yn derbyn y gwsanaeth newydd hwn, bydd eich diwrnod casglu ar yr un diwrnod â’ch casgliadau bagiau du.

Ond mae cartrefi yn ardal Coedmor o Gwmann heb dderbyn eu bocsys duon ar gyfer y gwastaff gwydr eto.

Mae unrhyw newid yn siwr o achosi dryswch i breswylwyr er y gellir cyfeirio at y pecyn gwybodaeth i wybod pa ddiwrnodau ac wythnosau y gwneir y casgliadau.  Gellir hefyd wirio trwy y gwirydd côd post ar wefan y cyngor. Gellir yn ogystal gofrestru gyda’r gwasanaeth neges destun ac ebost, newydd sbon, er mwyn derbyn neges i’ch atgoffa y noson cyn eich casgliad nesaf.  Ond ni ddisgwylwyd y byddai gweithwyr y cyngor yn drysu gyda’r trefniadau newydd!

Mae’n bwysig nodi y bydd gwydr a bagiau du yn cael ei gasglu gan gerbydau ar wahân ac efallai y bydd hyn yn digwydd ar wahanol adegau yn ystod y diwrnod casglu.

Mae’r Cyngor yn honni eu bod wedi dosbarthu bocs du i gartrefi ar draws y sir i ddal poteli gwydr a jariau er mwyn eu casglu, ynghyd â chyflenwad blwyddyn o fagiau glas a bagiau leinio gwastraff bwyd ar gyfer cadis cegin brown.  Os nad ydych eto wedi cael eich pecyn neu’r cynwysyddion ailgylchu hyn, dylid cysylltu a’r cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“O heddiw ymlaen, 23 Ionawr, byddwn ni fel sir yn ailgylchi mwy.

“Drwy gasglu eich bagiau glas yn amlach, a thrwy gasglu hyd yn oed mwy o eitemau y gellir eu hailgylchu, fel gwydr, gwastraff hylendid a chewynnau, bydd gennych lai o wastraff na ellir ei ailgylchu i’w roi allan i’w gasglu.

“Y rheswm pam y byddwn ni bellach yn casglu bagiau du bob tair wythnos yw, ar gyfartaledd, mae bron hanner y cynnwys a roddir mewn bagiau du yn ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu, felly mae dal llawer mwy y gallwn ni ei wneud i leihau ein gwastraff.

“Mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir i wella llesiant Sir Gaerfyrddin, ei breswylwyr a’i chenedlaethau yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i’n Tîm Gwastraff ac Ailgylchu am eu gwaith caled ac ymroddiad i wella gallu y Cyngor i ailgylchu ac i’r cyhoedd am barhau i wneud y peth iawn a gwneud eich rhan dros yr amgylchedd, drwy ddidoli eich gwastraff ac ailgylchu’r hyn a allwch.”

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu neu os ydych chi’n dymuno cofrestru ar gyfer ein casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau am ddim, ewch i wefan y Cyngor.

Dylid rhoi eich deunydd ailgylchu a’ch bagiau du yn eich man casglu cyn 6yb ar eich diwrnodau casglu.