Cystadlu ardal Clonc360 ar faes Eisteddfod yr Urdd

Holl ganlyniadau a chystadlaethau dydd Mercher yn fyw ar wefan Clonc360

gan Ifan Meredith
IMG_1466URDD GOBAITH CYMRU

Yng nghanol wythnos lawn cystadlu, tro’r disgyblion uwchradd, adrannau ac aelwydydd yw hi heddiw i gystadlu ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.

Cystadlaethau’r dydd:

08:00- Unawd Alaw Werin bl. 7, 8 a 9- Pafiliwn Coch- Ela Mablen Griffiths-Jones.

08:50- Grŵp Llefaru bl. 7, 8 a 9 i Adrannau- Pafiliwn Coch- Aelwyd Llanbed

09:45- Grŵp Hip-Hop/Stryd / Disgo BI. 6 ac lau- Pafiliwn Gwyn- Ysgol Bro Pedr

13:45- Llefaru Unigol Bl. 7, 8 a 9 i ddysgwyr- Pafiliwn Coch- Julia Kosidlo, Ysgol Bro Pedr

14:45-Dawns Hip-Hop/Stryd/Disgo Unigol BI. 10 a dan 19 oed- Pafiliwn Gwyn- Elin Lloyd, Ysgol Bro Pedr

22:00

Uchafbwytniau’r dydd o faes yr Eisteddfod yn Llanymddyfri.

20:57

Gwleidyddion adnabyddus ar y maes heddwi gan gynnwys y Prif-Weinidog, Mark Drakeford ac ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

18:18

Cyfweliad gyda buddugwr y gystadleuaeth ddawns unigol blwyddyn 10 a than 25 oed, Elin Lloyd o Ysgol Bro Pedr.

17:42

Elin Lloyd, Ysgol Bro Pedr yn ennill y ddawns unigol i flwyddyn 10 a than 25 oed!

15:01

Elin Lloyd, Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yng nghystadleuaeth Dawns Hip-Hop/ Stryd/ Disgo Unigol BI. 10 a dan 19 oed. P

14:31

Elain Roberts o gylch Aeron yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023  

Daw Elain yn enedigol o Bentre’r Bryn ger Cei Newydd. Mae’n fyfyrwraig yn mhrifysgol Bryste yn astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth. Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu yn y gystadleuaeth hon ar ôl iddi ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron llynedd yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych. 

Daeth 10 ymgais i law gyda gyfyn i’r 10 gyfansoddi drama neu fonolog ar gyfer dim mwy na dau actor heb fod dros 15 munud o hyd. 

“Mynd yn syth at galon ein prif gymeriad”
Mewn datganiad, medd y beirniaid, Gethin Evans a Steffan Donnelly:

“Monolog yw I/II? sy’n mynd â ni yn syth at galon ein prif gymeriad. Wedi ei osod mewn ciwbicl toiled, mae ein prif gymeriad yn aros am ganlyniad prawf beichiogrwydd. Gyda chydbwysedd medrus o hiwmor a drama, mae’r dramodydd yn ymdrin â chydsyniad yn grefftus, gan hefyd dal ein sylw gyda chymeriad sydd yn teimlo dryswch ac unigrwydd.”

14:21

Beth yw eich barn chi am y chwe awen?

Seremoni’r Fedal Ddrama ar y gweill ar Lwyfan y Cyfrwy.

14:00

Julia Kosidlo, Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Llefaru Unigol bl. 7, 8 a 9 i ddysgwyr. 

13:44

Canlyniad: Seirian Cutler yn 3ydd yng nghystadleuaeth y Dawns Hip-Hop/Stryd / Disgo BI. 6 ac lau Unigol. 

13:14

IMG_1476

Cablyniad cynta’r dydd ac Ela Mablen Griffiths-Jones yn fuddugol yn yr Unawd Alaw Werin i flynyddoedd 7, 8 a 9.