Dathlu Dydd Nadolig Uniongred

Gwahoddwyd ffoaduriaid sy’n byw yng Ngheredigion i ddathlu Dydd Nadolig Uniongred ar 07 Ionawr 2023

gan Lowri Thomas

Trefnwyd bod yr unigolion o Wcráin a holl ffoaduriaid Ceredigion, ynghyd â’r rhai sy’n byw ar y ffin yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn dathlu diwrnod Nadolig Uniongred, a hynny gan Gyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â’r Tîm Ehangu Mynediad ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Campws Llanbed. Daethant at ei gilydd i ddathlu dydd Nadolig yr Eglwys Uniongred, sef prif grefydd Wcráin. Fe wnaeth y Brifysgol hefyd estyn gwahoddiad i’w myfyrwyr preswyl fynychu.

Mynychodd Laryssa y digwyddiad. Dywedodd: “Diolch yn fawr iawn i bawb a drefnodd y digwyddiad hwn i ni. Roedd yn braf, yn garedig ac yn flasus.”

Daeth dros 120 i’r digwyddiad lle gallai pawb gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae, cerddoriaeth a chrefft. Roedd cyfle hefyd i gael trafodaethau anffurfiol gydag asiantaethau partner a fyddai’n helpu gydag integreiddio i’r gymuned leol. Roedd y Groes Goch Brydeinig, Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol y GIG, Gyrfa Cymru a Heddlu Dyfed Powys yn bresennol. Rhannodd Housing Justice Cymru a Chyngor ar Bopeth Ceredigion wybodaeth ychwanegol ar eu stondinau.

Yn ymuno â’r Ffoaduriaid a’r Myfyrwyr roedd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; y Cynghorydd Rhys Bebb Jones, Dirprwy Faer Llanbedr Pont Steffan; a’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan, Cynghorydd Llanbedr Pont Steffan. Dywedodd y Cynghorydd Williams: “Roedd yn wych dod ag ystod o bobl o’r gymuned at ei gilydd mewn un lle i ddathlu Dydd Nadolig Uniongred gyda’n ffoaduriaid. Mae Ceredigion, yn ogystal â siroedd cyfagos, wedi croesawu eraill â breichiau agored. Roedd hwn yn gyfle i ddod â phawb at ei gilydd, rhannu gwybodaeth a dathlu’r diwrnod gyda’n gilydd ac roedd yn llwyddiant ysgubol.”

Dywedodd Samantha Bowen, Rheolwr Ehangu Mynediad PCYDDS: “Mae PCYDDS wedi ymrwymo i gael gwared ar y rhwystrau i gyfranogiad mewn Addysg Uwch a wynebir gan y rhai sy’n ceisio lloches yn y DU. Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn gwneud cais am statws Prifysgol Noddfa a fydd yn galluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at addysg a chymorth am ddim yn ystod eu hastudiaethau. Mae wedi cynnig ysgoloriaeth sy’n galluogi myfyrwyr o Wcráin i astudio’r wobr ôl-raddedig mewn Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy.”

Darparwyd adloniant gan Arts4wellbeing, Ceredigion Actif a grŵp Ukulele Llanbedr Pont Steffan. Benthycwyd beic smwddi yn garedig gan TGP Cymru.