O’r Dderi i Ddenmarc

Taith gyffrous disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol y Dderi i Ysgol Dalby, Denmarc

Ysgol Y Dderi
gan Ysgol Y Dderi
Ysgol y Dderi

Disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol y Dderi yn dal awyren o Stansted i Billund, Denmarc

Copa-Koldinghus

Cerdded 160 0 risiau i gopa Castell Kolinghus

Ffrindiau

Megan Joy yn mwynhau cwmni ei ffrind newydd o Ddenmarc, Sophie

Gwers-Celf

Mwynhau gwers celf yn Ysgol Dalby gyda’n ffrindiau newydd

Legoland

Yr uchafbwynt, ymweld â Legoland, Billund.

Llyfrgell

Blwyddyn 6 Ysgol y Dderi yn llyfrgell Ysgol Dalby

Yn gynnar ar fore Dydd Llun, 8fed o Fai, 2023, dechreuon ni, 17 o ddisgyblion Blwyddyn 6 Ysgol y Dderi, ar ein taith i Stansted.  Roedden ni’n mynd i dreulio wythnos yng nghwmni ein ffrindiau newydd yn Ysgol Dalby, Kolding yn Nenmarc. Mae plant Ysgol Y Dderi wedi bod yn teithio i Ddenmarc ers dros ugain mlynedd yn ddi-dor, heblaw am y cyfnod clo wrth gwrs, felly dyma’r tro cyntaf ers tair mlynedd i ni ddychwelyd fel ysgol.

Ar ôl chwe’ awr o deithio mewn bws, cyrhaeddon ni Maes Awyr Stansted ac roedden ni’n teimlo’n gyffrous iawn.  Dyma’r tro cyntaf i chwech ohonom ni hedfan.  Cymerodd ryw awr a chwarter i ni gyrraedd Denmarc yn yr awyren cyn teithio awr mewn bws i Ysgol Dalby.  Cawson ni ein croesawu gan athrawes yr ysgol, Trine, cyn bwyta swper a mynd i’n gwelyau.

Roedd yr ysgol yn Dalby yn dechrau am 8 o’r gloch y bore felly roedd angen codi’n gynnar.  Ar ôl digon o frecwast, aethon ni i gwrdd â’n ffrindiau newydd.  Roedden ni wedi synnu ar hyd y sied beics – ond fe ddaeth yn glir fod angen yr holl le gan fod y mwyafrif yn dod i’r ysgol ar gefn beic!  Roedden nhw’n groesawgar iawn a chawson ni daith o gwmpas yr ysgol. Ysgol i blant rhwng 5 oed ac 16 oed oedd yr ysgol ac roedd dros 600 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol.  Ar ôl mynd am daith o gwmpas yr adeiladau, cawson ni weld eu cyfleusterau allanol.  Waw! Roedd ganddyn nhw 12 cae pêl-droed! Roedden ni wrth ein boddau.  Roedd eu campfa yn anferthol hefyd.  Roedd ganddyn nhw ddigonedd o le i ymarfer eu doniau chwaraeon.

Yna, cawson ni gyfle i chwarae cardiau, gwrando ar gyflwyniad o Ddenmarc a mynychu gwers Celf ac Ymarfer Corff.  Dyma gyfle da i ni gyfathrebu a dysgu sgiliau newydd.

Am ddau o’r gloch y prynhawn, roedd y diwrnod ysgol yn dod i ben.  Cawson ni gyfle i fynd adref gyda’n ffrindiau mewn parau.  Profon ni fwydydd gwahanol a gweld sut roedd plant a phobl Denmarc yn treulio eu hamser sbâr yn eu cartrefi.  Roedd pawb wedi derbyn croeso twymgalon.  Nôl i’r ysgol aethon ni erbyn 8 o’r gloch er mwyn cael paratoi cael mynd i’r gwely.

Bore dydd Mercher, ac roedd hi’n amser i ni gyflwyno ein gwasanaeth i’r ysgol.  Thema ein gwasanaeth oedd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd.   Mae’r neges eleni yn ffocysu ar wrth-hiliaeth. Mae’n datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd, ac os ydym yn ei weld, rhaid Galw Nhw Allan. I orffen ein gwasanaeth, fe wnaethon ni ganu cân Hawliau Plant.  Cawson ni ganmoliaeth uchel am ein cyflwyniad ac am safon ein canu.

Yna, bant â ni i’r dref gyfagos er mwyn ymweld â Chastell Koldinghus.  Cerddon dros 160 o risiau er mwyn cyrraedd brig y tŵr a gwelon ni olygfa odidog o’r dref.  Dysgon am hanes y dref ac am nifer o chwedlau diddorol.  Ar ôl picnic ffein ar lawnt y castell, aethon ni i nofio ym mhwll nofio’r dref.  Roedd e’n anferth gyda sleidiau, byrddau deifio, pwll tu fas ac amryw o byllau tu fewn.  Roeddwn ni wrth ein boddau.

Yn ystod y prynhawn, aethon ni adref gyda’n ffrindiau i fwynhau cyfnod arall yn eu cartrefi. Aeth rhai  i ymuno mewn hyfforddiant pêl-droed, a’r gweddill i chwarae, ymlacio a sgwrsio o dan yr haul tanbaid.  Roedd ein rhieni o Ddenmarc wedi ein sbwylio ni’n rhacs!

Bore dydd Iau – ar ôl gwers gerddoriaeth, cawson ni gyfle i fynd i’r dref i siopa.  Roedd hi’n braf cael treulio ychydig o amser yn pori trwy’r siopau a chael cyfle i brynu anrhegion.

Nôl â ni i’r ysgol wedyn er mwyn cael ymlacio am y nos.  Gwylion ni ffilm, bwyta popcorn ac yfed siocled poeth.

Roedd y diwrnod mawr wedi cyrraedd, mynd i Legoland!  Roedden ni wedi clywed cymaint o bethau da am y parc ac nid oedden ni wedi cael ein siomi.  Roedd rhywbeth at ddant pawb, digonedd o reidiau cyflym, araf, cyfle i fynd yn wlyb a hyd yn oed acwariwm hyfryd.  Mae pawb yn hoffi lego felly dyma oedd diwrnod i’r brenin i ni gyd.  Rydyn ni i gyd am fynd nôl yna un diwrnod!

Daeth hi’n amser i ni ffarwelio â’n ffrindiau gan fod ni’n gadael yn gynnar yn y bore.  Rydyn ni wedi gwneud ffrindiau am oes ac mi fyddwn ni’n cadw mewn cysylltiad agos.

Yn gynnar ar fore dydd Sadwrn, daeth hi’n amser i ni ffarwelio â Dalby a dechrau ar ein taith am adref. Ar ôl siwrnai mewn bws ac awyren roedden ni adref yn Llangybi.

Roedd hi wedi bod yn wythnos arbennig.  Cawson ni gyfle gwych i brofi diwylliant Denmarc ar ei orau. Roedd yr ysgol wedi bod yn groesawgar iawn ac rydyn ni dal mewn cysylltiad agos.

Rydyn ni mor ddiolchgar am y cyfle ac mi gofiwn ni’r atgofion am byth.

Adroddiad gan ddisgyblion Blwyddyn 6, Ysgol y Dderi 2023.