Y Drindod Dewi Sant yn cynnal cynhadledd i Athrawon ar ‘Ddysgu drwy Natur’ yn Llambed.

Edrych ymlaen at wahodd Athrawon o’r Ysgolion Cynradd i’r campws

gan Lowri Thomas

Mae’r gynhadledd hon, a gynhelir ar gampws Llambed ddydd Gwener 9 Mehefin, wedi’i threfnu yn enw Tir Glas, ac mae wedi’i hanelu at ysgolion cynradd yng Nghymru. Prif thema’r gynhadledd fydd ‘dysgu drwy natur.’ Bydd y diwrnod dan arweiniad Richard Dunne, awdur y llyfr i athrawon ‘The Harmony Project’ ’, a gyfieithwyd i’r Gymraeg gan y Brifysgol y llynedd.

Bydd yr Aelod Seneddol Ben Lake a’r Aelod o’r Senedd Elin Jones hefyd yn bresennol i groesawu pobl a rhannu eu gweledigaeth ar gyfer y prosiect cyffrous hwn.

Bydd hefyd yn gyfle i’r Brifysgol ddathlu gwaith disgyblion o ddeg ysgol yng Ngheredigion sydd wedi bod yn rhan o brosiect peilot dan ofal Richard yn ddiweddar. Mae’r gwaith a gyflawnwyd hyd yma o safon uchel iawn ac mae’n fodel o arfer da y mae’r Brifysgol yn dymuno ei rannu â gweddill ysgolion Cymru wrth iddynt gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

Meddai Richard Dunne:

“Yn dilyn cyfieithu’r canllaw i athrawon y llynedd, mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda 10 ysgol yng Ngheredigion i ddatblygu cwricwlwm Cytgord yn seiliedig ar natur dros y flwyddyn academaidd hon.  Mae’r prosiectau dysgu a rennir yn y gynhadledd Cytgord mewn Addysg yn wych ac rydym wrth ein bodd y bydd llawer o blant o’r ysgolion yn bresennol i gyflwyno’u gwaith a chanu eu cân Cytgord. Edrychwn ymlaen at weithio gyda rhagor o ysgolion y flwyddyn academaidd nesaf a hoffem ddiolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am eu cefnogaeth hael a’u brwdfrydedd dros y prosiect peilot hwn.”

Bydd rhaglen y dydd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau ar ‘Stori Cinio’ a Tharddiad Bwyd Lleol gan Carwyn Graves, Pwysigrwydd y plât bwyd gan Mrs Anwen Hughes o FUW Cymru, Barddoniaeth gan Dr Hywel Griffiths, Cerddoriaeth gan Steffan Rees o CERED, Ffermio gan Rebecca Holden o Fferm Bwlchwernen a Geometreg gan Richard Dunne.

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed y Drindod Dewi Sant:

“Mae’r Brifysgol, trwy ei menter Tir Glas, yn falch i allu cefnogi Prosiect Peilot Cytgord gyda’r deg ysgol gynradd yng Ngheredigion ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at glywed am y gwaith sy’n cael ei wneud gan y disgyblion yn ystod y gynhadledd. Gyda chymorth y Drindod Dewi Sant, bydd Richard Dunne yn parhau i fentora’r deg ysgol hyn yn ystod y flwyddyn ysgol sydd i ddod. Bydd dwy o’r ysgolion fydd yn mynychu’r gynhadledd hefyd yn derbyn cymorth gan Richard i ddatblygu’r prosiect Cytgord gyda’u disgyblion o fis Medi. Mae hwn yn brosiect cyffrous, pwysig ac amserol a fydd, gobeithio, yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan maes o law.”