Dros 500 o dda stor ym mart Llanybydder

Adroddiad Mart Dydd Sadwrn 11eg o Fawrth

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans
37FDFD10-3C02-4B16-9FE4

Roedd dros 500 o wartheg yn bresennol a’r trêd yn ardderchog ddoe.

Roedd y prisiau uchaf fel a ganlyn..

Eidon gorau – £2060 i Bellamy, Hendy

Aner orau – £1980 o eiddo Jones, Pantycelyn

Buwch orau – £1650 o eiddo Shannon, Pannau

Buwch a llo gorau – £1880 o eiddo Williams, Cwmhwplin

Yn wir Llanybydder yw’r lle i werthu eich gwartheg!

Yr 8fed o Ebrill fydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofrestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib. Bydd gwobrau ar gyfer y prisiau uchaf ym mis Ebrill.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am eu gwaith.