Yn edrych am aelodau newydd

Mae Côr Lleisiau’r Werin, Côr Merched Llanybydder, yn edrych am aelodau newydd.

gan Dr T M Walters
Poster

Mae Côr Lleisiau’r Werin, Côr Merched Llanybydder, yn edrych am aelodau newydd.

Mae’r côr, dan arweiniad Elonwy Davies, yn canu caneuon gwerin, gan gynnwys caneuon adnabyddus fel “Titw Tomos” a rhai caneuon lleol llai adnabyddus am lefydd yng Ngheredigion megis “Cwm Alltcafan”, “Cwm Tydi”, a’r chwedlonol “Cantre Gwaelod”, ynghyd ag emynau a charolau.

Mae’r criw o tua 20 o ferched yn perfformio’n gyson yn y pentref a thu hwnt a chodi arian at achosion lleol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau. Rydym hefyd yn cael llawer o hwyl, yn meithrin cyfeillgarwch ac yn cefnogi ein gilydd.

Rydym yn ymarfer bob nos Iau, 7.30yn yn Festri Aberduar, Llanybydder.

Os ydych yn mwynhau canu a chymdeithasu, dewch draw i ymuno â ni!  Bydd croeso arbennig i ddysgwyr Cymraeg.  Am fwy o fanylion, ffoniwch Elonwy ar 01570 480129.