Eirig Jones, cwmni ‘E Jones Plumbing & Heating Ltd’, Llanybydder yw’r ‘Pencampwr Coetio Prydeinig, 2023.’ Cynhaliwyd y Bencampwriaeth hon Ddydd Sadwrn, Awst 26ain ger hen dafarn yr Highmead a chroesawyd cystadleuwyr o Gymru, yr Alban a Lloegr i Lanybydder. Er mai diflas oedd hi o ran tywydd, roedd hwyliau da ar bawb a’r cystadleuwyr ar eu gorau. Eirig Jones a Rhydian Lloyd o Bumsaint oedd yn y rownd derfynol a bu cystadlu brwd rhwng y ddau.
Dywedodd Eirig:
‘Dw i wedi ennill y Bencampwriaeth yma unwaith o’r blaen a hynny yn Stonehaven yn yr Alban ond roedd ennill y tro hwn yn golygu dipyn mwy i mi gan fy mod yma ar dir fy hunan yn Llanybydder. Dechreuais gymryd diddordeb yn y gêm pan o’n i’n blentyn yn gwylio dad yn chwarae a dw i wrthi fy hunan bellach ers rhyw ddeng mlynedd ar hugain. Mae chwarae coets yn lot o hwyl. Felly os oes diddordeb gyda rhywun yn ardal Llanybydder i ymuno â ni, plis cysylltwch â fi.’
Hoffai Clwb Coetiau Llanybydder ddiolch o galon i Aneurin Williams (Babs) am gael benthyg y cae, i Bwyllgor y Pentre am ddarparu barbaciw, i’r Ganolfan Deulu am y te a’r coffi ac i Angharad ac Andrew am ddarparu bwyd yn y Clwb Rygbi ar ddiwedd y noson. Diolch hefyd i bawb arall a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd. Yn wir, roedd yn ddiwrnod i’w gofio!
Llongyfarchiadau calonnog felly i Eirig ar ei lwyddiant ysgubol a phob lwc gyda’r coetio yn y dyfodol.