Eisteddfod Capel y Groes yn Ôl!

Eisteddfod Capel y Groes yn cael ei chynnal yn y capel am y tro cyntaf ers 2019

gan Luned Mair

Eleni, am y tro cyntaf ers 2019, mae Eisteddfod Capel y Groes yn cael ei chynnal. Wedi tair blynedd o gystadlaethau rhithiol r’yn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl i’r capel ddydd Mercher, Ebrill y 12fed gyda’r cystadlu’n dechrau am 1:30 y.p.

Bydd pob math o gystadlaethau llwyfan yn ogystal â’r cystadlaethau llên a chelf. Mi fydd uchafbwynt yr eisteddfod – y seremoni gadeirio i’r rheiny o dan 21 – yn cael ei chynnal am 8:30 y.h.

Mae rhaglen yr eisteddfod ar ein gwefannau cymdeithasol ac ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, felly cofiwch gael pip arni! Edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld yng Nghapel y Groes, i gystadlu neu i gefnogi a mwynhau gwledd o dalent.