Eisteddfod yr Urdd yn hwb i’r economi leol

Busnes newydd lleol yn rhan o gynllun 100% Sir Gâr

gan Ifan Meredith
F38F87DE-E5EC-4368-A42F

Llanymddyfri yw’r lle i fod yr wythnos hon wrth i’r dref gynnal Eisteddfod yr Urdd ar ran Sir Gaerfyrddin.  Mae siopau a busnesau lleol wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer yr ŵyl hir ddisgwyliedig.

100% Sir Gâr – Lleol amdani

Mae cynllun 100% Sir Gâr yn gynllun gan Gyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi’i greu fel ffenestr siop rithwir gyda chymorth y cynghorau tref a chymuned a grwpiau busnes a manwerthu, i roi llwyfan i fanwerthwyr a chynhyrchwyr lleol dynnu sylw at eu cynnyrch.

Caiff manwerthwyr, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr a chrefftwyr annibynnol yn Sir Gaerfyrddin eu hannog i gofrestru i fod yn rhan o’r llwyfan, a fydd yn gyfle ychwanegol i hyrwyddo a marchnata eu busnes i gwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol.

Un cwmni o’r fath sydd wedi manteisio ar y cynllun yw gwneuthurwyr canhwyllau moethus, Cwyr Cain sydd â phresenoldeb ar stondin 100% Sir Gâr yn yr Eisteddfod.

Dywedodd Carys Lewis o Gwmann, cydberchennog Cwyr Cain:

“Fe ddaeth Bwtîc Canhwyllau a phersawrau Cartref Cwyr Cain i fodolaeth yn dilyn newid gyrfa yn llwyr i ni’n dwy o fyd addysg. Yn dilyn diwrnod llesol o hyfforddi sut i wneud canhwyllau a chynnyrch persawrau cartref, ganwyd y syniad i gamu i fyd busnes fel partneriaeth.

“Trwy gefnogaeth a chymorth 100% Sir Gâr, rydym wedi cael cyfleoedd da i hyrwyddo ein menter ac i werthu ein cynnyrch Cymreig/dwyieithog mewn lleoliadau cyfagos a dysgu sut i wella a datblygu ffenestr siop ein busnes newydd. Roedd bod yn rhan o blatfform Sir Gâr hefyd yn sicrhau ein bod yn cael ein gweld ar y cyfryngau cymdeithasol ac felly’n cyrraedd mwy o bobl.

“Fe brofodd derbyn grant Iaith Gwaith, gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn fuddiol er mwyn i ni fedru hyrwyddo a hybu’r Iaith Gymraeg, yn ogystal â datblygu ein gwefan ddwyieithog newydd. Mae bod yn rhan o 100% Sir Gâr wedi bod yn brofiad positif iawn i gwmni Cwyr Cain.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth,

“Mae’n hyfryd gweld Eisteddfod yr Urdd a’r economi leol yn cyd-fynd a’i gilydd fel hyn. Rwy’n hyderus bod ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt wedi mwynhau’r hyn sydd gan Dref y Porthmyn a’r ardal gyfagos i’w cynnig yr wythnos hon a gobeithio y byddant yn ystyried dod yma eto wrth gynllunio eu gwyliau haf.”

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Arweinydd Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio,

“Rwy’n falch iawn o weld Llanymddyfri a threfi a phentrefi eraill Sir Gaerfyrddin yn llawn coch, gwyn a gwyrdd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

“Mae manteision diwylliannol clir o gynnal yr Eisteddfod i blant a phobl ifanc ein sir a’i heffaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg. Fodd bynnag, dylem hefyd ddathlu cyfraniad gwerthfawr yr ŵyl hon i fusnesau lleol, ar y Maes ac yn Llanymddyfri a’r ardal gyfagos.”