O Geredigion i Wcrain

Cyflwyno sgarff hir Merched y Wawr mewn te dathlu yn Llanbed

Hazel Thomas
gan Hazel Thomas
Te-Santes-Dwynwen-Rhanbarth-Ceredigion-gyda'-eitemau'r-scarff-yn-mynd-i'r-Ukrane

Te Santes Dwynwen Rhanbarth Ceredigion gyda’r sgarff wedi ei throsi i eitemau defnyddiol ac yn mynd i’r Wcrain.

Mesur-y-scarff-yn-Aberaeron

Mesur y scarff yn Aberaeron

Te-Santes-Dwynwen-Rhanbarth-Ceredigion-gyda'-eitemau'r-scarff-yn-mynd-i'r-Ukrane

Te Santes Dwynwen Rhanbarth Ceredigion gyda’r sgarff wedi ei throsi i eitemau defnyddiol ac yn mynd i’r Wcrain.

scarff-caele-mesur-Aberaeron

Y scarff yn cael ei mesur yn Aberaeron

aerial-view-or-scarff

Y scarff o’r awr

Pwyllgor-Rhanbarth-Ceredigion

Pwyllgor Rhanbarth: Llywydd Owenna Davies, Trysorydd Nesta Evans, Ysgrifennydd Mair Jones.

y-scarff-3
Y-scarff-eto

gan Owenna Davies Llywydd Rhanbarth Ceredigion Merched y Wawr

O Bwyth i Bwyth

Cydweithio mae’r clymau, dal llaw yn gytun.

Miloedd o ddwylo’n gwehyddu yn un.

A’r llafur yn gariad, yn gysur, yn nerth

Y plethu drwy’i gilydd a rydd iddynt nerth.

Enfys Hatcher Davies

Yn Awst 2022 cludwyd sgarff anferth chwarter milltir o hyd o babell Merched y Wawr ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron i’r Babell Lên. Roedd y sgarff enfawr yn rhan o’r sialens o ail gysylltu aelodau Merched y Wawr Rhanbarth Ceredigion ar ôl y pandemig.  Arweiniodd y cyfan at greu ffilm lwyddiannus iawn ar Gwlân, Gwlân o dan nawdd y Loteri Genedlaethol.

Cymerodd 160 o aelodau ran uniongyrchol yn y ffilm ynghyd â bron pob un o’r 900 aelod mewn gweithgareddau amrywiol ar eu haelwydydd, dros Zoom neu yn gymdeithasol.  Y criw gweithgar a fu’n gyfrifol am y ffilm oedd Lowri Steffan, Anna ap Robert a Chwmni Garnfach gyda chymorth Enfys Hatcher Davies a Carys Mai.

Erbyn hyn mae’r ffilm wedi cael ei dangos ar hyd a lled Ceredigion, Sir Gâr a Phenfro ac yn teithio i dde Cymru, Powys a Llundain yn y dyfodol agos.  Ond beth am y Sgarff?

Dros fisoedd oer y gaeaf mae aelodau’r Rhanbarth wedi llwyddo i ailwampio’r sgarff i greu darnau i gadw pobol yn gynnes. Ar brynhawn Sadwrn Ionawr 28ain cynhaliwyd te dathlu ar gampws Coleg y Drindod Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan.  Y wraig wadd oedd Jayne Holland sy’n rhedeg bwyty Veganishmum ym mhentre’ Penboyr, Drefach Felindre.

Cafwyd hanes  y gwaith mae hi ai gŵr Rob yn ei wneud i gasglu a chludo nwyddau i’r Wcrain. A dyna ddiwedd taith y sgarff.  Cyflwynwyd y rhan fwyaf iddi i’w cludo allan ar eu taith nesaf yn Chwefror.  Cyflwynir gweddill y sgarff i elusennau o fewn Ceredigion sy’n cefnogi ein trigolion sy’n dioddef o effaith tlodi tanwydd y gaeaf hwn.

Diolch i holl aelodau Merched y Wawr Rhanbarth Ceredigion a fu’n brysur yn creu’r sgarff, yn cyfrannu i hwyl y ffilm Gwlân, Gwlân ac i’r rhai a fu’n ailwampio’r cynnyrch i’w gyflwyno i eraill.  Diolch enfawr hefyd i Jayne a Rob Holland wrth gasglu a chludo adnoddau hanfodol i gefnogi trigolion yr Ukrain yn y cyfnod anodd hwn.

Da’n gilydd, o glicio a gweithio a gwau

A datod, cywiro’i berffeithio pob bai.

O bwyth i bwyth heddiw, clic cliciwn yn braff.

Yng ngwlanen ein mudiad, mae’n fory ni’n saff.

Enfys Hatcher Davies