Gwahoddir ceisiadau am Wobr Goffa Hag Harris

Cyngor Tref Llanbed a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi sefydlu gwobr ar y cyd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
544919E1-E586-4F36-8BF3

Llun: @ElinCeredigion

Cyhoeddodd Cyngor Tref Llanbed fod ceisiadau yn agored ar gyfer Gwobr Goffa Hag Harris a’i fod yn cydweithio â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar hyn.

Dywedodd Maer y dref, y Cynghorydd Helen Thomas,

“Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn gweithio mewn partneriaeth â PCYDDS i lansio’r wobr hon er cof am y diweddar Gynghorydd Hag Harris. Fel cyn Faer a Chynghorydd Tref a Chynghorydd Sir rydym yn annog ceisiadau gan bobl yn ward etholiad Llanbedr Pont Steffan er mwyn cadw cof Hags yn fyw.”

Ym mis Mai llynedd, roedd marwolaeth y Cynghorydd Hag Harris yn sioc i bawb yn yr ardal a thu hwnt.

Croesawir ceisiadau gan unigolion sy’n 16 oed neu’n hŷn a rhoddir ystyriaeth i’r rhai sydd am ddilyn meysydd cerddoriaeth, busnes, addysg a hyfforddiant neu chwaraeon gan fod y rhain o ddiddordeb i Hag.

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn yr 31ain Mawrth ar y ffurflen sydd ar gael ar wefan Cyngor y Dref.