Gweithio’n galed a chwarae’n galed

Portread o Emyr y Gof yng ngholofn “Cymeriadau Bro” Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Emyr Jones, Cwmann, sylfaenydd cwmni Teify Forge Llanbed yw testun “Cymeriadau Bro” rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc.

O holi Emyr beth sy’n bwysig iddo, yr ateb mwyaf amlwg yw “gwaith”.  Yn ei waith y mae ei fywyd a gallech ddadlau ei fod yn ddau berson hollol wahanol. Mae’n berson gwyllt a direidus o ran natur gydag iaith liwgar o bryd i’w gilydd ond yn ei oferôls gwaith mae e’n ddwst du o un glust i’r llall. A phetaech yn cwrdd ag ef yn y clwb rygbi ar y Dydd Sadwrn neu ym Mrondeifi ar y Dydd Sul, byddai neb yn eich beio chi am beidio ei adnabod. Gwir yw y bydd yr un mor wyllt a direidus, ond o edrych arno yn ei ddillad hamdden ac yntau wedi golchi tu ôl ei glustiau, mae’n berson hollol wahanol o ran golwg.

Gallwch ddarllen am ei ddyddiau cynnar yn gweithio i gwmni Lock Contractors yn y de a sut yr adeiladodd gwmni llewyrchus yn darparu gwasanaeth weldio symudol a gwneud pibau hydrolig.

Mae’r teulu yn bwysig iawn iddo a’r ffin rhwng bywyd teuluol a byd gwaith yn denau.  Yn ogystal â bod yn grefftwr medrus a chyflogwr da yn lleol mae Emyr yn gymwynaswr bro hefyd wedi codi miloedd i achosion da dros y blynyddoedd.

Yn y cyfnod diweddar mae Emyr a’i wraig Eirian yn mwynhau teithio i bedwar ban byd i wylio rygbi, er na fu ef erioed yn chwarae rygbi ei hunan.  Mae’r ddau ohonyn nhw’n adnabyddus am wisgo hetiau cowboi Cymru yn llawn bathodynnau er mwyn cefnogi eu gwlad.

Mynnwch gopi o Clonc er mwyn darllen amdano’n llawn.  Mae copiau ar gael yn y siopau lleol a thrwy danysgrifio ar y we.