Gwerth creadigol neu chwarae plant?

Ymateb dilynwyr Clonc360 i ddiwygiadau Prif Seremoniau Eisteddfod yr Urdd.

gan Ifan Meredith

Eleni, mae’r Urdd wedi cyflwyno’r ‘chwe awen’ sy’n tywys y buddugwyr i’r llwyfan. Maent yn gymeriadau lliwgar sy’n cynrychioli chwe seremoni’r Urdd ar ffurf cymeriad o chwedl Taliesin.

Ar bost Facebook Clonc360, holwyd am farn y dilynwyr am y chwe awen ym Mhrif Seremonïau’r dydd.

“Braidd yn rhyfedd i ddweud y gwir!”

Cafwyd ymateb cymysg wrth i Peter Evans gredu ei fod yn “dibrisio’r seremonïau” tra mai cymeradwyo’r addasiad mae Steff Rees wrth nodi’r angen am “greadigrwydd” ac i “wthio ffiniau”. Ymateb Megan Jones Roberts yw gymharu’r seremoni i fwy o “syrcas” gyda “dim urddas na pharch i’r enillwyr”.

Medd Sian Lloyd nad oedd hi’n ei ddeall ond mai “seremoni i bobl ifanc yw e, a nhw ddyle dewis siwt ma neud y seremonie yn fwy cyfoes a pherthnasol iddyn nhw.”

Mae Gareth Jones yn gorchymyn i ddod nôl “â ‘bach’ o safon i’r ŵyl”. Yn ogystal, medd Alwyn Jenkins fod “angen iddyn nhw fynd”. Cytuna Mary Davies, aelod o Orsedd Cymru fod “angen gwaredu’r syniad”.

Mae’r Urdd yn “ymwybodol” o sylwadau negyddol am y diwygiad hwn.

“Eleni, penderfynwyd ailedrych ar brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd gan roi’r cyfle i Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd ail-ddychmygu strwythur a delwedd y seremonïau.”