Mae Ieuan Davies, Golden Scissors, Llanybydder wedi bod yn gwerthu’r Papi Coch ers blynyddoedd bellach. Cynorthwyo Ambiwlans Sant Ioan oedd e pan yn blentyn ac yna yn 1974, dechreuodd eu gwerthu yn siop Y Golden Scissors. Ond, ers rhyw ddeng mlynedd ar hugain bellach, fe yw trefnydd yr apêl yn yr ardal hon. Fe felly sy’n gyfrifol am eu harchebu, eu rhoi mewn bocsys (tua 40 bocs i gyd), a’u dosbarthu i ardaloedd Llanybydder, Pencarreg, Llanllwni, Rhydcymerau a Llansawel. Diolch i’r pentrefwyr brwd wedyn sy’n barod i werthu o dŷ i dŷ ac i’r siopau, tafarndai a’r ysgolion hefyd am eu cymorth hwythau. Ond nid dyna ddiwedd rôl Ieuan wrth gwrs, gan fod yn rhaid casglu’r bocsys a’r arian ar ôl Dydd y Cofio, cyfri’r derbyniadau, gwneud y gwaith papur a bancio’r arian.
Dywed Ieuan:
‘Mae e’n fwy o waith nag y mae rhywun yn ei feddwl ac fe fyddai cael rhagor o bobl i gynorthwyo, a dweud y gwir, yn fendigedig. Os oes awydd arnoch i helpu felly, yna plîs cysylltwch â fi ar 07817 617957. Fe fyddai unrhyw gymorth yn cael ei werthfawrogi’n fawr.’
Dyma apêl teilwng iawn sydd wedi elwa’n fawr o ganlyniad i ymdrechion pobl fel Ieuan. Hoffwn felly ar ran y gymuned, ddiolch o galon i chi am eich ymroddiad a’ch gwaith di-flino ar hyd y blynyddoedd. Ry’ch chi’n bendant wedi gwneud gwahaniaeth!