Ail-gynnu cyffro yng Nghwmann

Cymdogion Cwmann a’r fro, ewch ati i gwblhau’r holiadur er mwyn rhoi eich barn chi.

gan Christina Garside

Mae pwyllgor newydd wedi cael ei sefydlu yng Nghwmann er mwyn trefnu digwyddiadau a cheisio dod â’r gymuned at ei gilydd. Mae yna ddau ddyddiad wedi’u penodi ar gyfer hynny sef y 27ain o Fai 2023 a 9fed o Fedi 2023.

Er mwyn sicrhau ein bod yn trefnu digwyddiadau sydd o ddiddordeb i gymdogion yr ardal dymunwn glywed beth hoffech chi weld yn yr ardal. Mae angen ail-gynnu cyffro yng Nghwmann felly mae eich barn chi yn bwysig!!

Er mwyn clywed eich barn, cwblhewch yr holiadur yma ar lein neu os ydych wedi derbyn copi ar bapur, bydd angen i chi ei ddychwelyd i flwch post yn y Ganolfan, Cwmann erbyn 1af o Fawrth 2023.

Hefyd yn gysylltiedig gyda’r adroddiad yma mae yna boster gyda chôd QR i’r holiadur.