Helynt y tywydd gaeafol yn parhau

Mae effeithiau ar wasanaethau’r ardal yn parhau ar ôl rhew dros nos.

gan Ifan Meredith

‘Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleusterau’

Mae Ysgol Bro Pedr ynghau heddiw eto er ymdrechion i ail-agor. Mae hyn yn golygu bydd gwaith yn cael ei ddarparu dros ‘Teams’ heddiw eto.
Mae disgyblion ysgol Y Dderi hefyd yn cadw draw o’r ystafell ddosbarth am yr ail ddiwrnod o achos y tywydd garw. Byddwn yn eich cadw wedi diweddaru ar Clonc360 wrth i’r tywydd garw ddatblygu.

Mae ysgolion Llanllwni a Llanybydder yn ogystal ag Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi agor eu safleoedd ar gyfer staff a disgyblion heddiw tra bod Ysgol Carreg Hirfaen yn parhau ar gau.

Roedd effeithiau ar yr heolydd ddoe yn amlwg wrth i helynt y tywydd a fu ddod i’r amlwg. Gwelwyd effaith hefyd ar wasanaethau sbwriel yr ardal wrth i safleoedd gwastraff Llanbed a Llanarth fod ar gau ddoe a chasgliadau wedi eu tarfu yn ardaloedd Pencader, Maesycrugiau, Llanfihangel-ar-arth a Chastell Newydd Emlyn. Mae’r safleoedd gwastraff Llanbed a Llanarth yn parhau ynghau heddiw.

Cerbyd yn cael ei wthio lan tuag at Penbryn ar ôl mynd mewn trafferthion a llithro (18.1.23)
Yr eira ar gylchfan Teras yr Orsaf (18.1.23)
Ffordd Tregaron tuag at Dregaron (18.1.23)
Ffordd y Goedwig, Llanbed (18.1.23)

Mae’r neges o ofal yn parhau heddiw wrth i rybudd melyn parhau mewn grym tan hanner dydd heddiw. Gyda’r Heddlu yn parhau i rybuddio am yr heolydd llithrig ar ôl iddi ostwng i -3*C dros nos.ysgol