Hoff Emynau’r Cymry – Anrheg Nadolig ddiddorol iawn

64 o Gymry adnabyddus yn rhannu eu hoff emynau.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ymateb cymysg oedd ar fy wyneb wrth agor yr anrheg hon ar ddiwrnod Nadolig, ond diddorol iawn oedd darllen ‘Hoff Emynau’r Cymry’ ar Ddydd San Steffan.  Diolch Ynyr am dy garedigrwydd ac am feddwl am anrheg mor addas i hen foi fel fi!

Dyma 64 o Gymry adnabyddus yn rhannu eu hoff emynau a sawl un ohonyn nhw yn Gymry adnabyddus o’r ardal hon. Ynghyd â’r cefndir i’r dewisiadau, cynhwysir hefyd nodiadau byrion am yr emynwyr a’r cyfansoddwyr.

Dywed Robert Nicholls yn ei ragair:

Heb os, mae gan yr emyn a’r emyn-dôn le amlwg a blaenllaw yn ein traddodiad llenyddol a cherddorol fel cenedl, ac nid ystrydeb fyddai dweud ble bynnag y cwrdd Cymry â’i gilydd bydd canu emynau yn dilyn yn aml.

Sut mae dewis hoff emyn dywedwch?  Onid oes sawl hoff emyn gennym ac ambell un ar gyfer sawl achlysur gwahanol?  Yn ei hesboniad hi, ysgrifennodd y diweddar Hazel Charles Evans fod dewis hoff emyn fel “agor bocsiad o siocled bleser.”  Dywed Gareth Glyn bod “gofyn i mi ddewis fy hoff emyn braidd fel gofyn i rywun ddewis ei hoff blentyn.”  Gan fod hyn yn gymaint o her, dywed Dai Lloyd “yn wir, bydd rhaid canu tua 37 ohonynt yn fy ngwasanaeth angladd i!”

Ymhlith y Cymry adnabyddus a gyfrannodd gyda’u hoff emyn mae Huw Llywelyn Davies, Martyn Geraint, Mici Plwm, Dafydd Iwan, Beti-Wyn James, Bryn Terfel, Siân Thomas, Angharad Tomos, Margaret Williams a Casi Wyn.

Diddorol yw darllen profiadau personol y cyfrannwyr a deall pa mor amlwg a dylanwadol oedd emynau yn eu bywydau.  Roeddwn yn disgwyl mwy o ailadrodd ymhlith dewisiadau’r cyrannwyr a disgwyl gweld ‘Calon Lân’ ac ‘I bob un sy’n ffyddlon’ yn ymddangos sawl gwaith, ond roedd atgof pawb yn wahanol ac yn hollol unigryw.

Meddyliwch i Huw Edwards gael galwad ffôn tra’r oedd yn ddisgybl blwyddyn gyntaf yn Ysgol Ramadeg Llanelli i fynd ar ei feic i Gapel llawn Bryn Seion yn Llangennech er mwyn cyfeilio yng nghyfarfod Henaduriaeth De Myrddin. Yr emyn gyntaf oedd un o’i fferfrynnau sef ‘Rhagluniaeth fawr y nef’ ar y dôn ‘Builth’.

Pwy ydych chi’n meddwl oedd y ddau Gymro adnabyddus a ddewisodd geiriau a thôn buddugol Eisteddfod Llanbed sef ‘Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw’ gan W. Rhys Nicholas a thôn ‘Pantyfedwen’ gan Eddie Evans?

A beth am hoff emynau Cymry adnabyddus lleol fel Gillian Elisa, Densil Morgan a Delyth Morgans Phillips? Mynnwch gopi o’r llyfr i ddarganfod yr atebion ac er mwyn darllen am boblogrwydd parhaol ein hemynau.

Wedi darllen y gyfrol hon, dylwn fod yn gallu cyhoeddi beth yw fy hoff emyn i.  Rwy’n dueddol o gytuno â dewis Dewi Pws sef ‘Daeth Iesu i’m calon i fyw’ sef cyfieithiad W Nantlais Williams o emyn Saesneg Rufus McDaniel.  Ond ar y llaw arall, dengys y gyfrol hon fod gennym gyfoeth o emynau argyhoeddedig a bod dewis hoff un yn dasg eithaf amhosibl.

Diolch i Robert Nicholls a Chyhoeddiadau’r Gair amdani ac am geisio sicrhau parhad yn ein hetifeddiaeth gerddorol a llenyddol i’r cenedlaethau a ddaw.