Braf oedd clywed am lwyddiant Anthony, Maes y barcud, yn ystod yr wythnos ddiwethaf a sylweddoli mai ond rhyw 70 o gigyddion ym Mhrydain sydd wedi derbyn gwobr fel hon. Cafodd Anthony Davies MB.Inst.M ei wobrwyo yng Ngwobrau Blynyddol ‘The Insititute of Meat (Iom)’ a gynhaliwyd yn ‘Butchers Hall’, Llundain, ar 23ain Chwefror. Cyflwynwyd y wobr i Anthony gan Bill Jermey, Cadeirydd y Sefydliad Cig. Mae Anthony, sydd bellach yn un o bum Prif Gigydd yn Dunbia, wedi gweithio ar y safle yn Llanybydder ers ei ddyddiau Ysgol, pan oedd yn eiddo i Oriel Jones. Treuliodd gyfnod o ddwy flynedd yn Llundain, gan astudio yng Ngholeg Smithfield a gweithio ym Marchnad enwog Smithfield hefyd, cyn dychwelyd i Lanybydder. Dechreuodd Anthony fel fforman ond erbyn hyn, fe yw Rheolwr ‘Operations’ y safle.
Pan ofynnwyd iddo beth mae’r wobr yn ei olygu, dywedodd Anthony:
“Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd fawr gan fy mod wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant cig ar hyd fy oes. Mae gweithio’n agos gyda ffermwyr, cwsmeriaid a gwahanol gyflenwyr o bob rhan o’r byd dros y blynyddoedd wedi rhoi pleser mawr i mi. Ond, wrth gwrs, ni fyddai wedi bod yn bosibl cyflawni hyn heb gefnogaeth fy nheulu, cydweithwyr a ffrindiau ar draws y diwydiant.” Llongyfarchiadau calonnog felly i chi Anthony gan obeithio eich bod wedi mwynhau’r dathlu!