Pen-blwydd hapus i gangen Llanbedr Pont Steffan o Ferched y Wawr yn 50 oed! Roedd y mudiad, yn genedlaethol, wedi ei sefydlu ers 1966 ond, diolch i frwdfrydedd llawer o fenywod yn y dref, yn 1972, aethpwyd ati i sefydlu cangen arbennig yn ‘Llanbedr Pont Steffan a’r cylch’. Beti Evans, Y Mans a’r diweddar Beryl Jones, Frondewi oedd y ddwy oedd yn gyrru pethau yn eu blaen yn bennaf.
Mae darnau o bapur, rhaglenni, cofnodion a ffotograffau a fu’n hel llwch mewn ambell gwdyn papur mewn drâr wedi bod yn hynod werthfawr wrth i ni edrych nol ar y blynyddoedd cynnar. Er, mae’n debyg, bod sawl peth diddorol wedi cael ffling i’r bin heb i’r perchnogion weld gwerth arbennig ynddynt ar y pryd. Mae atgofion unigolion werth y byd wrth gofnodi hanes, ond mae hyd yn oed y rheini yn amrywio weithiau.
Yn wreiddiol, roedd sawl un ohonom yn meddwl mai rhestr o’r aelodau cyntaf oedd yr enwau niferus a gyhoeddwyd yn rhifyn Chwefror o Clonc eleni. 90 o enwau (gweler isod). Ond, na. Rydyn ni bellach yn credu mai enwau’r gwragedd a ddangosodd ddiddordeb, ymlaen llaw, mewn ymuno yn y gangen ‘newydd’ oedd rhain. Mae’n debyg bod Beti a Beryl wedi trefnu stondin mewn pabell fach ar gae’r ysgol uwchradd adeg Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen, Llambed ym mis Awst 1972. Roedd cyfle wedyn i fenywod roi eu henwau yno er mwyn iddynt allu mesur faint o awydd a diddordeb oedd yn y cylch i gangen newydd. Wrth i ni gysylltu’n ddiweddar gyda rhai oedd ar y rhestr, daeth yn amlwg bod ambell un o’r menywod wedi bod yn nodi enwau aelodau o’u teuluoedd ar eu rhan – chwiorydd, merched, mamau – ond ddaethon nhw ddim i gyd yn aelodau. Ar y llaw arall, rydyn ni’n gwybod am rai nad oedd y rhestr ond a oedd wedi ymaelodi yn y flwyddyn gyntaf. Pobol fel Morfudd Slaymaker, er enghraifft. Ond mae’n werth cyhoeddi’r rhestr o’r 90 yma ar Clonc360 gan ei bod yn gofnod o gyfnod diddorol ym mywyd Cymraeg y dref.
Rydyn ni’n dathlu bod tair o’r gwragedd ar y rhestr hon wedi bod yn aelodau yn ddi-dor am hanner can mlynedd, sef Dilwen Roderick, Avril Williams ac Eryl Jones. Ac mae nifer o’r rhai ar y rhestr dal yn aelodau heddiw ond eu bod wedi cymryd ‘seibiant’ rywbryd oherwydd bod eu bywydau yn brysur gyda gwaith a magu teulu.
Y GWRAGEDD AR Y RHESTR:
- Mrs Beti Evans, Y Mans, Stryd Newydd (llywydd)
- Mrs Laura John, Cartref, Heol y Bryn (is-lywydd, gwraig Parch. Stan John, Soar)
- Mrs Beryl Jones, Frondewi, Heol y Bryn (ysgrifennydd)
- Mrs Elizabeth Warmington, Heol y Bryn (trysorydd)
- Mrs Dilwen Roderick, Awelon, Heol y Bont
- Mrs Ann Thorne, Llanllwni
- Miss Eirlys Jones Lewis, Rhydygof
- Mrs Gwenda Richards, Siop Haydn Richards, Heol y Bont
- Mrs Avril Williams, Y Fedw, Cwm-ann
- Mrs Lettie Jones, Blaenau, Cellan
- Miss Elizabeth Jones, Blaenau, Cellan
- Mrs Trudi Williams, Nantoer, Cellan
- Mrs Phyllis Jones, Cilgell, Cwm-ann
- Mrs Eirian Thomas, Heol Maesycoed
- Miss Lil Jones, Ffynnonbedr
- Mrs Myfanwy Jones (efaill Lil, uchod) Ffynnonbedr
- Mrs Joan Evans, Drefach House
- Mrs Nansi Evans (efaill Joan, uchod), Cwmins
- Mrs Ray Morgan, Stryd Newydd
- Mrs Palma Stoneham, Heol y Bryn
- Mrs Nansi Evans, Caffi Mile End
- Mrs Gwyneth Evans, Tangraig, Silian
- Mrs Mary Oliver, Welwyn, Stryd Newydd
- Mrs Janet Lewis (Mrs ET Lewis)
- Mrs Sali James, Siop Cwm-ann
- Mrs Hilda Jones, Keronga, Stryd Fawr
- Miss Janet Jones (merch yr uchod), Keronga
- Mrs Betty Richards, 20 Bryn yr Eglwys
- Mrs C Williams, Dolaugwyrddion
- Mrs Gwyneth Williams (merch yr uchod), Dolaugwyrddion
- Mrs Mary Jones, Landre
- Mrs Lewis, Dolwerdd
- Mrs Megan Hughes, Gorlan, Stryd Newydd
- Mrs Enfys Jones, Siop Enfys, Heol y Bont
- Mrs Eryl Jones, Gerlan, Greenfield Terrace
- Mrs Pat Davies, 3 Barley Mow
- Mrs Sally Evans, 3 Bryn yr Eglwys
- Mrs Ann Lewis, Bronwydd, Stryd y Bont
- Mrs B.J. Jones, Brynteg, Cwm-ann
- Mrs Iris Evans, Dol-coed, Drovers Road
- Mrs Yvonne Davies (Cadman gynt) Dolaugleision
- Miss Inez Rees, Heol y Bont
- Mrs Hannah Lloyd, Awelfan, Heol y Bryn
- Mrs Menna Evans, Brynderw, Cwm-ann
- Miss Eluned Abel, Maes bach
- Miss Dilys Jones, Caeteithiwr
- Mrs Annie Howells, Fishers Arms, Llanwnnen
- Mrs Rees, Y Banc,
- Mrs James, 11 Teifi Terrace
- Mrs Gwen Jones, 8 Teifi Terrace
- Mrs Jones Lewis, Rhydygof
- Miss Davies, Tegfan
- Mrs Evans, Delville
- Mrs Jacob Davies, Alltyblaca
- Mrs Vera James, Y Fron, Heol y Bont
- Mrs Eiryth Davies, Ardeifi, Stryd Newydd
- Miss Eluned Evans, Llanllwni
- Mrs P Jones, Swyddfa’r Post
- Mrs Glenys Rees, Hazeldene
- Miss Jessie Price
- Mrs June Williams, Brongest
- Miss Sally Davies. Aelod Er Cof. (Sally Welsh)
- Mrs M. E. Williams, Tegfryn, Alltyblaca
- Mrs Nancy Hughes, Aelfryn, Stryd y Bont
- Mrs Margaret Owen, y fflat uwchben Quan
- Miss Ellen Jenkins, Cribyn
- Mrs Davina Evans (byw yng Nghribyn nawr)
- Mrs Lena (Olifer) Williams, Cwm-ann
- Mrs L Morgan, Lisbon
- Mrs Bessie Roberts, Green Park, Stryd Newydd
- Mrs H Davies, Sandpit Cottages
- Mrs Hamer, Wernllwyn, Station Terrace
- Mrs Sadie Davies, Glas y Dorlan
- Miss Cissie James, Heol y Bont
- Mrs Menna Evans, 38 Heol y Bont
- Mrs Davies, 38 Heol y Bont (mam yr uchod)
- Miss Henllys Jones, Rosedale, Heol y Bont
- Mrs Davies, Brynmeddyg (bysus)
- Mrs Angus, Stryd Fawr (siop wlân)
- Mrs Maggie Hughes, 1 Greenfield Terrace
- Mrs Gwenna Evans, 5 Greenfield Terrace
- Mrs Catherine Morgan, Garej Pontafaen
- Mrs Jones, Rhoslwyn, Station Terrace
- Mrs Davies, Bon Marche
- Mrs E A Williams, Heulwen, Cellan
- Mrs Eirlys Jenkins, 3 Peterwell Terrace
- Mrs Margaret Roberts, Brodawel, Cwm-ann
- Mrs Eluned Lewis, Tanlan, Cwm-ann
- Mrs Ray Williams, Bayliau, Cellan
- Mrs Mair John, Angorfa, Heol Llanwnen