Tîm Llanbed yn boddi wrth ymyl y lan

Abertyleri 24, Llanbed 17 yn Rownd Gynderfynol Cwpan Adran 3

Megan Dafydd
gan Megan Dafydd

Cafwyd gêm gynderfynol gyffrous i dîm cyntaf Llanbed prynhawn ’ma wrth iddyn nhw herio Abertyleri i lawr ym Monymaen.

Ar ôl perfformiad anhygoel i Lanbed yn y rownd ddiwethaf yn erbyn Llanharan, roedd y bechgyn yn gobeithio gwneud yr un peth eto heddiw yn erbyn tîm diguro Abertyleri yn rownd gynderfynol cwpan Adran 3.

Ond boddi wrth ymyl y lan oedd hanes Llanbed heddiw wedi gêm dda o gyfeiriad y ddau dîm.  Roedd safon y ddau dîm yn weddol gyfartal drwy’r gêm ond gwelwyd Abertyleri yn achub y blaen ym munudau ola’r gêm.

Abertyleri 24, Llanbed 17.

Sgoriwyd y ceisiadau gan Meirion Lloyd a Jac Williams a chymerwyd y ciciau llwyddiannus gan Osian Evans.

Braf oedd gweld llawer o gefnogwyr Llanbed yn gwylio.  Aeth llond dau fws o’r clwb bore ma i ddangos eu cefnogaeth.  Ond ni fydd perfformiad yn y stadiwn cenedlaethol i Lanbed eleni yn anffodus.  Pob dymuniad da i Abertyleri.

Perfformiad da iawn gan fechgyn Llanbed a fydd yn ymdrechu am weddill y tymor i ennill y gynghrair.