Sanclêr 24 Llanbed 28

Gêm dda arall oddi cartref i Dîm Rygbi Cyntaf Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
F2249308-1935-4080-ADBF

Teithiodd tyrfa dda o ardal Llanbed i Glwb Rygbi Sanclêr ddydd Sadwrn lle tystiodd pawb i gêm glos iawn.

Brwydr rhwng dwy ochr gystadleuol iawn oedd hon gyda’r ddau dîm ar ben y gynghrair ac yn cystadlu am ddyrchafiad.

Roedd y sgôr ar hanner amser yn Sanclêr 14 a Llanbed 18 gyda’r ddau dîm ar dân i gario’r dydd yn yr ail hanner.

Sanclêr a sgoriodd gyntaf gan adael Llanbed yn benderfynol o daro’n ôl, ac felly y bu gydag ond deng munud yn weddill o’r gêm.

Sgoriwyd ceisiadau Llanbed gan Brynmor Jones a Ewan Bowden, a chiciwyd yn llwyddiannus gan Osian Jones.

Y sgôr ar ddiwedd gêm gyffrous oedd Sanclêr 24 Llanbed 28.

Bydd y tîm lleol yn teithio i Neyland heno gan chwarae gêm a fethwyd yn gynt yn y tymor, ac yn croesawu Sanclêr i Gae Ffordd y Gogledd ddydd Sadwrn nesaf mewn gêm gystadleuol arall ond â mantais o chwarae gartref.  Pob lwc fechgyn.