Noson lwyddiannus iawn ymysg y rhew

Cyflwyno £14,200 rhwng Canolfan Cancr Felindre a Mind Cymru

gan sara evans

Ar y 17eg o Ragfyr, cynhaliwyd noson elusennol yng Ngholeg Llambed er mwyn codi arian i Ganolfan Cancr Felindre a Mind Cymru.  Ar ôl llawer o drefnu, roedd hi’n noson hynnod o lwyddiannus lle roedd dros 200 o bobl wedi dod i gefnogi, serch y tywydd rhewllyd.  Roedd y gefnogaeth gan unigolion a busnesau lleol yn anghredadwy a dwi’n hynod o ddiolchgar i chi am eich rhoddion.

Teimlais anrhydedd mawr yn cyflwyno cyfanswm o £14,200 a rhannwyd rhwng Canolfan Cancr Felindre a Mind Cymru.  Mi roedd y ddau elusen yn hynnod o ddiolchgar am y rhodd a mi fydd yn cael eu ddefnyddio i helpu unigolion yn y dyfodol.

Hoffem ddiolch i bawb ddaeth i’r noson i gefnogi.  Gobeithiaf yn fawr i gynnal noson yr un fath yn 2024 gyda’r gobaith o werthu botel mor ddrud â’r un a werthwyd ar y noson.

Gobeithio bod eich ‘dancing shoes’ yn barod. Diolch o galon i bawb a gefnogodd – meddwl y byd!