Mae gan y mwyafrif ohonom atgofion melys am berthnasau arbennig ac un o’r rheini i mi oedd mam. Ray Dolgwm oedd hi i bawb arall wrth gwrs. Wrth gofio nôl i adeg fy mhlentyndod, rwy’n sylweddoli pa mor weithgar oedd mam.
Fe ddechreuodd ddosbarthu papurau gyda Siop ‘Dolgwm Stores’ ym 1940 pan oedd yn un ar bymtheg. Mr a Mrs W.I. Jones yr Hafod oedd berchen Dolgwm ar y pryd a buodd hi yno am ddwy flynedd. Priododd wedyn ac yna bu’n byw mewn sawl cartref cyn symud i ‘small holding’ yn Golden Grove. Pan oedd eira mawr rhyw flwyddyn a dim byd yn gallu dod yn agos i’n tŷ ni, cerddodd mam o Golden Grove i Landeilo, sydd tua phedair milltir, er mwyn prynu bwyd ar gyfer y teulu. Wrth ddychwelyd, fe welodd fod y lori lo wedi colli glo ar ochr y ffordd ar ben hewl ein tŷ. Doedd dim un lori’n gallu dod aton ni ar y pryd achos yr holl eira. Felly fe ddywedodd mam wrthon ni fel plant am gasglu’r glo oedd ar ochr yr hewl. ‘Ewch lan â bobo fwced,’ meddai. Ac felly, bant â ni!
Roedd mam yn fenyw brysur iawn ac yn gallu troi ei dwylo at unrhyw beth. Er mwyn cael coed tân, rhaid oedd llifo coed yn yr allt fach gerllaw’r tŷ a mam oedd wrthi bob tro. Roedd llawer o ieir gyda ni ac fe fyddai mam yn gwerthu’r wyau wedyn i siop ar bwys Gorslas. Fel arfer, pan fyddai’n mynd i’r siop, arferai fynd ar y bws a ninnau fel plant wedyn yn mynd gyda hi. Ond, yn ystod yr eira mawr, doedd dim bysys, felly rhaid oedd cerdded. Janet a fi aeth i’r siop y tro hwnnw felly. Tua 10 oed o’n i ar y pryd ac roedd Janet fy chwaer tua 7 oed. Cawsom ein codi lan ar arian yr wyau.
Yn flynyddol, deuai rhywun â chywion bach i ni gan eu casglu o’r trên yng ngorsaf Llandeilo. Eu rhoi nhw wedyn mewn bocs mawr pren a oedd â gwres a golau ynddo. Roedd mam yn archebu’r cywion o flaen llaw a bydden nhw’n cael eu delivero i orsaf Llandeilo ac yn y bocs y bydden nhw wedyn tan eu bod yn tyfu ychydig ac yn gallu byw yn y sied a thu allan.
Er nad oedd llawer o arian gyda ni, do’n ni byth yn starfo. Os na fyddai bwyd yn y tŷ, yna fe fydde mam yn cwca pethau fel ‘Welsh cakes’, sponge gyda coconut a jam, pancws, toffi a butterscotch. Fe fuodd mam yn helpu ar fferm gerllaw pan o’n ni yn Golden Grove ac fe fydde hi’n dod nôl â chig briw a faggots i ni amser lladd mochyn. Bydde hi’n helpu i godi tatws hefyd ac wedyn bydde sached neu ddwy o datws yn siŵr o gyrraedd ein tŷ ni.
Pan ddychwelodd mam i Lanybydder, aeth yn ôl i weithio i ‘Dolgwm’ ym 1958 gan weithio i Mr a Mrs W.I Jones am ychydig eto. Wedi i Mr Jones farw, daeth Maude a David John Davies, Ordolau i redeg ‘Dolgwm Stores’. Yn siop ‘Commerce’ o’n nhw cyn hynny a siop groser oedd honno hefyd. Roedd Rhys Lewis (brawd Maude) a’i wraig Mair.yn rhedeg siop groser yr un pryd ar stad Tan-y-gaer. Ond pan symudodd Maude a David John i Dolgwm, yna aeth Mair a Rhys i Commerce. Ymddeolodd David John ym 1980 a Rhys a Mair ddaeth i siop Dolgwm wedyn.
Buodd sawl un yn rhedeg y siop groser ar stad Tan-y-gaer. Dw i’n cofio Graham a oedd yn rhedeg ‘Tegwen’s Bakery’ yno ar un adeg a bydde fe’n gwerthu bara hefyd. Buodd Mavis, Castle Green yn rhedeg y siop am ychydig ond yn y diwedd, cafodd y siop ei throi nôl yn dŷ a dyna gartref mam wedyn tan ei marwolaeth.
Cofiaf fod mam yn codi’n fore iawn pan oedd hi’n gweithio yn Dolgwm gan ei bod yn dechrau ar y rownd bapurau am 6. Roedd y papurau’n cael eu gadael ar ‘steps’ yr Institute (a oedd yn rhan o adeilad Dolgwm). Y gwaith cyntaf oedd ganddi felly oedd sortio’r cyfan allan. Roedd y ‘bankers’ yn Llanybydder yn mofyn y papurau’n fore ac felly rhaid oedd dosbarthu i’w tai nhw yn gyntaf. Dosbarthu rownd y pentre oedd y dasg nesa. Fe fydde hi’n dosbarthu papurau tan tua 7:30 ac yna’n dychwelyd adre i baratoi brecwast i ni’r plant. Nôl â hi wedyn gan fynd o’r Gwrdy ar heol Caerfyrddin i’r Ficerdy ar heol Cwmann a lan i Rydybont. Ar droed oedd hi ac mae’n siŵr bod yn rhaid dychwelyd i’r siop nawr ac yn y man i gael mwy o bapurau. Dw i’n cofio serch hynny bod beic ganddi am ychydig.
I ddarllen mwy am Ray Jones, prynwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc.