On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Eirian Lewis, Mynachlog Ddu sy’n rhannu ei atgofion am ‘Dolgwm Stores’, Llanybydder.

gan Gwyneth Davies
Mair-a-Rhys-Dolgwm-Stores

Roedd gan mam a dad a Maude a Davy John, dair siop groser ar un adeg. Chwaer fy nhad oedd Maude a’r ddau deulu’n mwynhau gweithio gyda’i gilydd. Roedd siopau gyda nhw ar stad Tanygaer, Dolgwm a Commerce. Bu fy rhieni’n rhedeg Commerce cyn Dolgwm Stores ac mae gen i nifer o atgofion am y ddwy siop. Roedd Mair, garej Gwalia yn siopa yn Commerce ac un peth a brynai oedd ‘Red label tea.’ Deuai Cheetah’r ci gyda hi’n rheolaidd a hwnnw’n cael tun o fwyd ci a’i gario nôl adre yn ei geg. Weithiau cofiwch, byddai’n mynd draw i’r siop ar ben ei hunan gan ddod nôl â’i fwyd gydag e. Byddai’n rhaid i Mair ddod draw i’r siop wrth gwrs wedyn i dalu. Amser hapus oedd hi a phobl yn aml yn eistedd yn gysurus yn siop Commerce er mwyn cael sgwrs fach a rhoi’r byd yn ei le. Doedd dim sôn am restr siopa a rhywbeth cyffelyb i hyn oedd geiriau’r cwsmeriaid yn aml, ‘Beth ga i nesa? O ie. . . mae ishe biscuits arna i.’ Golygai hynny wrth gwrs y byddai’n rhaid i’r sawl a oedd yn serfio fynd nôl a mlaen i’r cefn fel io-io. Oedd, roedd modd cael digon o ymarfer corff yr adeg honno.

Roedd fy rhieni’n gwerthu amrywiaeth o fwydydd a Llanybydder wrth gwrs yn llawn bwrlwm yr adeg honno. Ceid prysurdeb mawr yn siop Dolgwm adeg mart a mam hyd yn oed yn paratoi rôls wedi’u llenwi gartre a’u gwerthu wedyn yn y siop. Fydde dim modd gwneud y fath beth heddiw oherwydd iechyd a diogelwch. Doedd dim archfarchnadoedd yn bodoli ac felly roedd bwydydd fel hyn yn boblogaidd dros ben.

Er bod nifer o staff da wedi bod yn gweithio gyda fy rhieni, y frenhines yn siop Dolgwm oedd Ray Jones. Bu Ray’n gweithio am flynyddoedd lawer yno a chofir amdani tan heddiw fel Ray Dolgwm. Agorai’r siop am 7 bob bore a Ray wedyn yn dosbarthu’r papurau newyddion o gwmpas y pentre. Gwyddai’n union pa bapur oedd pawb wedi archebu gan ysgrifennu enw pob tŷ ar y top. Dyna’r drefn feunyddiol a phopeth yn gweithio fel wats.

Bob dydd Sadwrn, ro’n i’n helpu i ddosbarthu’r papurau gan mod i yn yr ysgol ar hyd yr wythnos. Roedd bocs â sbring iddo gen i i ddal y papurau ar y beic ac weithiau, pan fydde’r stand yn symud, bydde’r cyfan yn cwympo’n bendramwnwgl a’r dasg o ddosbarthu papurau o hynny ymlaen wedyn wrth gwrs yn dipyn anoddach. Ro’n i’n dosbarthu yng ngwaelod y pentre a lan i’r tai cyngor yn Rhydybont a’r ffatri hefyd. Hyd yn oed ar ôl mynd i’r Brifysgol, ro’n i’n dal i helpu yn y siop adeg gwyliau.

Roedd fan gyda dad i ddosbarthu papurau ac arferai gario bwydydd hefyd gan sicrhau bod digon o greision a bisgedi ganddo ar gyfer y cwsmeriaid. Wrth fynd o gwmpas y tai a’r ffermydd, bydde nifer yn gadael rhestr siopa yn y drws a dad naill ai’n mynd nôl â’r bwyd iddynt nes ymlaen neu yn dod â nhw gyda fe trannoeth. Roedd dad, chwarae teg iddo, yn ‘nabod ei gwsmeriaid.

Fe fydde yna fans groser yn mynd allan o Commerce yn yr ‘hay day’ ac yn delivero o gwmpas y tai a’r ffermydd. Doedd pawb ddim yn talu’n syth a rhai yn holi a allen nhw dalu ar ddiwedd y mis ar ôl iddyn nhw gael cyflog ac eraill yn talu bob tri mis. Ond roedd rhai wrth gwrs yn talu’n syth. Y peth sy’n dod i’r cof yw bod fy rhieni’n arfer rhoi ‘peaches’ mewn tun fel diolch i’r cwsmeriaid a oedd yn talu ar ddiwedd y mis. Yn yr haf wedyn, bydden ni’n gwerthu hufen iâ yn y fan. Doedd dim rhewgell ynddi wrth gwrs. Yn hytrach, bocs pren oedd yn dal yr hufen iâ gyda threi o flociau rhew ynddo i gadw’r cyfan yn oer. Roedd bocs fel hyn yn handi i gadw cynnyrch fel menyn hefyd. Peth arall oedd yn cael ei werthu gyda ni yn y fan oedd bara ac fe fydde hwnnw’n dod o’r siop fara ar waelod y pentre. Bydde dad yn anelu at fod yn Ysgol y Dolau a ‘Rhydybont mills’ adeg toriad gan y bydde cyfle wedyn gyda’r gweithwyr i ddod mas i brynu o’r fan. Staff y gegin oedd yn prynu yn Ysgol y Dolau gan fod yr athrawon yn dysgu.

I glywed mwy o’r hanes diddorol yma, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc.