On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Rhan gyntaf cyfweliad Danny Gwalia ar Radio Cymru

gan Gwyneth Davies
Danny-Gwalia

Cafodd y diweddar Danny Davies, gynt o Garej Gwalia, Llanybydder ei gyfweld gan Carys Rhys Jones ar Radio Cymru nôl ym 1994. Dyma flas o ran gyntaf y rhaglen i chi:

Ces i fy ngeni ar fferm Tirisaf, rhwng Aberdulais a Chreunant (ger Castell-nedd), yn Ionawr 1923 a dw i newydd ddathlu fy mhen-blwydd yn 71 oed. Roedd fy mam a’n nhad yn dod o Lanllwni’n wreiddiol – fy nhad o Maes a mam o Nant Hendre.  Ann oedd enw mam ac Ifan oedd enw’n nhad. Ro’n ni’n bump o blant – tair chwaer ac un brawd ond bu farw un chwaer ddwy flynedd yn ôl. Ro’n ni’n cytuno’n dda pan o’n ni’n byw gartre ar y fferm. Fi oedd y babi ac felly ro’n i’n cael fy sboilo. Dim ond dwy flynedd yn unig buon ni’n byw yn Nhirisaf.  Prynon ni ‘Creigiau farm’ wedyn yn Resolfen a rhwng 1924 a 1925 roedd 23 o dda godro gyda ni a rownd laeth. Yna ym 1926, daeth y Streic fawr (National Strike) a gollon ni bopeth. Pan o’ch chi’n mynd yn fethdalwr (bankrupt) yr adeg honno, dim peth bach o’dd e. O ganlyniad, bu’n rhaid i fy chwaer hynaf weithio i’r dynion oedd arno fy nhad arian iddynt er mwyn talu ychydig o’r dyledion. Roedd miloedd o bunnoedd allan gydag e yn Resolfen am laeth ond doedd dim dime goch yn dod i mewn. Doedd dim arian gyda phobl i’w dalu – dyna’r sefyllfa! Gan fod y cyflogau mor fach yr adeg honno, roedd pobl yn cael gwaith byw. Mynd ar streic wedyn er mwyn trio gwella’r sefyllfa oedd yr unig ateb. O fan ‘na ‘mlaen, cawsom rai blynyddoedd gwael ond yna, ga’th dad job fel bailiff ar fferm Coed-y-Glyn yng Nghreunant.  Perthynas Martyn Evans-Bevan, Vale of Neath Brewery oedd y perchennog ac roedd plas mawr yno hefyd o’r enw Tyn yr Aur. Roedd mam wedyn yn gwneud menyn i’r tŷ mawr. Roedd e’n lle bendigedig gyda chwrt tennis a cheffylau i’w reidio.

Cawson ni bedair neu bum mlynedd neilltuol wedyn achos bod dad yn rhedeg y ffarm ond yna penderfynodd y perchnogion symud i Reading a gwrthododd dad fynd gyda nhw. Nawr wrth gwrs, ro’n ni ‘back to square one’! Doedd dim gwaith i gael a phethau’n edrych yn go dywyll.  Fe fyddai modd i dad gael gwaith fel ‘hostler’ yn y pyllau glo ond alle fe byth gwneud y fath beth. Roedd lot o regi dan ddaear a doedd dad ddim yn gyfarwydd â hynny.

Yn Aberdulais es i i’r ysgol fach wedyn. Ar ôl i ni ddod o ‘Creigiau farm’ aethon ni i fyw i le o’r enw Llety’r Afel ar dop y mynydd ger Aberdulais. Roedd pedair milltir gyda fi i gerdded i’r ysgol bob dydd. Ro’n ni’n byw mewn ‘apartment’ ond yn gorfod rhannu gyda theulu arall. Ro’n ni’n mynd â the mewn stên fach a brechdanau hefyd gyda fi yn ddyddiol i’r ysgol ond roedd y te yn oer wrth gwrs cyn amser cinio. Siwmper a throwsus byr o’n i’n gwisgo achos doedd neb yn gwisgo trowsus hir yr adeg honno. Yn y gaeaf wedyn, roedd y coesau bach yn rhewi. Ro’n i’n gwisgo cap hefyd ar fy mhen. Doedd dim gwisg arbennig yn yr ysgol wrth gwrs. Plant o Llety Bela, fferm nes lawr oedd yn cerdded gyda fi bob dydd ond os oedd eira wedyn, ro’n i’n methu mynd. Roedd tri athro yno a lot o blant. Ar ‘note books’ o’n ni’n ysgrifennu ac ro’n ni’n defnyddio pensiliau. Ro’n i’n lico chwarae pêl droed, criced a rygbi yn yr ysgol. Eglwyswyr o’n ni ond pan aethon ni i Greunant, i’r capel o’n ni’n mynd wedyn. Ro’n i’n joio canu yn y ‘Penny Readings’. Roedd y ‘Penny Readings’ yn debyg i eisteddfod fach. Ro’n i’n ennill yn aml gyda’r canu ond wedyn, dechreuodd y bois yn yr ysgol chwerthin ar fy mhen a roies i’r gorau iddi. Do’n ni ddim yn cael tripiau ysgol ac wrth gwrs doedd dim modd cael gwersi nofio yr adeg honno. Yn anffodus, do’n ni ddim yn gallu mynd i chwarae yn yr afon hyd yn oed achos roedd yr afonydd mor frwnt oherwydd y gwaith glo. Roedd glo mân ynddyn nhw ac ro’n nhw’n fochedd. Yn ystod y gwyliau haf wedyn, ro’n i’n ymweld â pherthynas fy nhad yn Norwood, Llanllwni. Ro’n i’n aros gyda nhw am dair wythnos i fis bryd hynny. Erbyn diwedd y gwyliau, roedd digonedd o gnau ar y cloddiau ac ro’n i’n mynd nôl â llond hen sach fflŵr o gnau wedyn gyda fi adre.

I Ysgol Uwchradd Creunant es i i ddechrau ond yna symudon ni o Greunant i Gilffriw ar ôl i’r gwŷr mawr symud i Reading. Es i wedyn i Ysgol Cadoxton oedd tua dwy filltir o Gastell Nedd ac o fan ‘na nôl i Greunant eto a setlo lawr o’r diwedd. Ces i fynd o un ysgol i’r llall gan ein bod ni wedi symud cymaint. Doedd dim siawns gyda fi felly i ddod ‘mlaen yn yr ysgol. Buodd fy mrawd yn gweithio ar fferm laeth pan symudon ni nôl i Greunant ac weithiau, byddwn i’n dod mas o’r ysgol i fynd â llaeth rownd y pentre gyda phoni a thrap. Ro’n i’n mynd â llaeth yn y nos hefyd gyda stên a mesuriadau hanner peint a pheint gyda fi. Yna ar ôl gorffen y rownd, ta faint o laeth oedd ar ôl, ro’n i’n cael cadw fe. Nôl ag e adre i mam wedyn. Prifathro’r ysgol ro’n i ynddi oedd piau’r ffarm.

Gorffennais i’r ysgol yn bedair ar ddeg a dechrau gweithio o dan ddaear yn y pwll glo yng Nghefncoed. Roedd rhaid gadael yr ysgol er mwyn dechrau ennill arian achos roedd pethau mor wael. Aeth fy mrawd i weithio at Gwilym Morgan, fferm Fforchgoch, Cwmbach. Dyma’r dyn oedd yn prynu’r ceffylau a oedd yn mynd i weithio tan ddaear. O Lanybydder o’dd y ceffylau’n dod y rhan fwyaf. Roedd y cryts oedd yn hŷn na fi i gyd yn gweithio yn y pwll glo ac ro’n i’n gwbod lot am y gwaith glo cyn dechrau gweithio yno.

I wybod mwy am hanes Danny, mynnwch gopi cyfredol o bapur bro Clonc.