Owain Schiavone’n ennilll Ras Sarn Helen

Gŵyl redeg lwyddiannus yn Llanbed

gan Richard Marks

Owain Schiavone yn derbyn tarian ras Sarn Helen gyda Nigel Davies y trefnydd

Kitty Robinson yn derbyn ei thlws

Delyth Crimes yn derbyn ei thlws

Samuel Harrison Paul yn derbyn ei wobr

Tony Hall gyda Wish Gdula sylfaenydd Ras SarnHelen

Gwireddodd Owain Schiavone (Clwb Athletau Aberystwyth) uchelgais wrth iddo ennill Ras Sarn Helen rhif 42 yn Llanbed ar y 14eg o Fai mewn 1 awr 51 munud a 43 eiliad.

Cwrs aml-dirwedd 16.5 milltir gyda dros 2500 troedfedd o ddringo yw cwrs y ras hon ac er bod llawer i ras hwy a mwy mynyddig ar gael y mae hon gyda’r caletaf ym marn llawer.

Yr oedd y tywydd o leiaf yn garedig i’r 31 o redwyr a’i rhedodd eleni a’r ddau redwr arall i orffen dan ddwy awr oedd Jon Bowie (1:55:29) o glwb Yr Amwythig a Steffan Walker (1:58:17) o glwb Sarn Helen. Steffan oedd y cyntaf yn y dosbarth agored (dan 40) a’r ail yn y dosbarth hwnnw oedd Samuel Harrison Paul (2:03:45) un o aelodau ifanc newydd y clwb sy’n gwneud tipyn o argraff eleni.

Enillydd ras y menywod oedd Kitty Robinson (2:8:52) o glwb NBLRs a’r fenyw nesaf i orffen, ac enillydd y dosbarth dros 55, oedd Delyth Crimes (2:41:01) o glwb Sarn Helen gyda’i chyd-aelod Pamela Carter (3:03:36) hefyd yn llwyddo i ymdopi’n llwyddiannus a’r her.

Yr oedd dau aelod arall o’r clwb ymhlith y gwobrau yn nosbarth y dynion dros 50 – Glyn Price (2:7:48) a Meic Davies (2:18:26) yn ail a thrydydd. Nid oedd unrhyw un o’r rhedwyr wedi rhedeg y ras hon agos mor aml â Tony Hall (2:36;50) o glwb Sarn Helen ac iddo ef aeth gwobr dosbarth y dynion dros 60.

I’r rhedwyr nad oeddent yn teimlo fel rhedeg y brif ras eleni yr oedd ras 9 milltir yn rhan o’r ŵyl a Dylan Davies (1:05:58) a Lou Summers (1:17:53) o glwb Sarn Helen oedd y buddugwyr.

Yn y ras filltir a hanner i’r ieuenctid yr oedd Harri Rivers (11:48) o glwb Sarn Helen yn enillydd clir gyda Sioned Ruth Kersey (13:26) yn ennill ras y merched.

(Lluniau gan Dylan Wyn Davies)