Y Prisau Gorau Erioed!

Adroddiad Mart Llanybydder – 11eg o Chwefror

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Er ein bod yn meddwl bod y prisiau mis diwethaf yn ardderchog, roedd y prisiau Ddydd Sadwrn hyd yn oed gwell.

Roedd bron 500 o wartheg yn bresennol a’r trêd yn ardderchog

Roedd y prisiau uchaf fel y ganlyn..

Eidon gorau – £1980 i Bellamy, Hendy ac i Bowen, Pwllglas

Aner orau – £1830 o eiddo Jones, Heolfeanog

Buwch orau – £1560 o eiddo Evans, Nantygwyddau

Yn wir Llanybydder yw’r lle i werthu eich gwartheg!

Yr 11eg o Fawrth fydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofrestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib. Bydd hefyd 70 o wartheg 12 mis oed ar werth o Emlyn a Danny Jones, Pantycelyn, Cwmann.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am eu gwaith.