Rhai o’r prisiau gorau erioed!

Arwerthiant da stôr cyntaf y flwyddyn yn Llanybydder a record arall yn cael ei dorri

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans
C29C7619-AD6A-409C-BC97-427472D867B4

Roedd dros 270 o wartheg yn bresennol a’r trêd yn ardderchog ddoe.

Roedd y prisiau uchaf fel y ganlyn..

Eidon gorau – £1680 o eiddo Jones, Pentre, Blaenplwyf

Aner orau – £1839 o eiddo Evans, Cefnllan, Llandovery

Buwch orau – £2220 o eiddo Jones, Rhydfallen Isaf, Llanarth sef record newydd yn Llanybydder!

Prisiau cyfartalog:

Eidonau £1011

Treisiedi £1074

Barens £1448

Yn wir Llanybydder yw’r lle i werthu eich gwartheg!

Yr 11eg o Chwefror fydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofrestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am eu gwaith.