Rhedwyr Aberystwyth yn arwain yn Ras Cledlyn

Ras Dyffryn Cledlyn yn mynd o nerth i nerth

gan Richard Marks

Owain Schiavone a James Cowan

Samuel Harrison Paul

Emma Price

Lou Summers

Michael Davies

Dee Jolly a Simon Hall

Enfys Needham Jones

Richard Marks

(Lluniau gan Aneurin James)

Cafwyd record newydd am gwrs 5 milltir ras ffordd Dyffryn Cledlyn eleni wrth i Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth ennill mewn 28 munud a 32 eiliad i barhau ei flwyddyn o lwyddiant er iddo gael ei wasgu’n galed gan James Cowan (28:47) o Glwb Prifysgol Aberystwyth.

Yn wir yr oedd y safon yn gystadleuol iawn gyda’r 6 cyntaf yn gorffen dan 30 munud gan gynnwys enillydd y flwyddyn ddiwethaf, Marc Horsman (29:12) o Glwb Pontypridd y 3ydd i orffen. Myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emma Price (34:20), oedd yn fuddugol yn ras y menywod hefyd. Aeth y wobr tîm i Glwb Athletau Aberystwyth.

Wedi ei threfnu gan Eleri Rivers o Glwb Sarn Helen i gefnogi Ysgol Dyffryn Cledlyn, dyma’r bedwaredd waith i’r ras hon gael ei chynnal a’r 88 redodd eleni oedd y nifer uchaf i’w rhedeg hyd yn hyn, 36 ohonynt yn aelodau o Glwb Sarn Helen. Aelod newydd o’r Clwb, Samuel Harrison Paul (30:32), oedd y cyflymaf ohonynt ac yn 7fed yn y ras gyfan gyda Dylan Davies (30:50) ac Irfon Thomas (30:59) yn dynn ar ei sodlau.

Ymhlith y gwobrau llwyddodd Michael Davies (32:17) i wthio Glyn Price i’r ail safle o 5 eiliad yn nosbarth y dynion dros 50 gydag Arwyn Davies (35:25) yn 3ydd. Dee Jolly (36:25) oedd yr ail fenyw i orffen gan ennill y dosbarth dros 35 oed gyda Fabi Findley (37:54) yn ail. Lou Summers (38:03) oedd enillydd dosbarth y menywod dros 55 gyda Delyth Crimes (39:35) yn ail a Helen Willoughby (42:22) yn 3ydd. Enfys Needham Jones (42:29) oedd enillydd dosbarth y menywod dros 45 gyda Joanna Rosiak (44:52) o Glwb Sarn Helen yn 3ydd. Richard Marks (36:45) oedd enillydd dosbarth y dynion dros 60 gyda Tony Hall (39:18) yn ail.

Fel rhan o’r achlysur trefnwyd rasys ieuenctid llwyddiannus gan yr Ysgol. Cyflwynwyd siec am £200 gan Glwb Sarn Helen i elusen Tir Dewi a fabwysiadwyd gan y Clwb am 2022. Cynhaliwyd raffl i gefnogi Banc Bwyd Llanbed, sef yr elusen a fabwysiadwyd gan y Clwb am 2023.