Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Sylweddolwyd yn gynnar neithiwr nos Fawrth, Mai 16eg bod yna byrst dŵr ar sgwâr Drefach lle roedd y dŵr yn rhedeg ar draws yr hewl i gyd.
Cyrhaeddodd goleuadau traffig a Dŵr Cymru tua 9 o’r gloch.
Mae’r sgwâr ers rhai oriau wedi bod ar gau heddiw [dydd Mercher] oherwydd bod y byrst yn un mawr. Maent wedi tyllu yn ddwfn i’r ddaear. Mae arwyddion hewl ar gau mor bell a Sgwâr Horeb a Sgwâr Llanwnnen.
Yn ôl un o weithwyr Dŵr Cymru nawr:
“Maent yn gobeithio bydd un ochr yr hewl nôl ar agor o fewn yr oriau nesaf ond bydd goleuadau traffig yn parhau am y tro.”