Swyddogion newydd CFfI Ceredigion

Dewiswyd y chwech mewn digwyddiad gan CFfI Ceredigion ym Mhontsiân ar 10 Mawrth

Endaf Griffiths
gan Endaf Griffiths
Swyddogion CFfI Ceredigion 2023-24

Rhes Gefn (chwith i’r dde) – Alaw Mair (CFfI Felin Fach), Dewi Davies (CFfI Llanddeiniol), Angharad Davies (CFfI Trisant); Rhes Flaen – Gwenyth Richards (CFfI Pontsian), Sioned Caryl (CFfI Llanwenog), Angharad Evans (CFfI Mydroilyn);

Rhywbeth sy’n unigryw i ddim ond ambell ffederasiwn CFfI yng Nghymru: dewis tîm o lysgenhadon ar gyfer y mudiad.

Dyma’r rhai a ddewiswyd mewn digwyddiad gan CFfI Ceredigion yn nhafarn Castell Hywel, Pontsiân nos Wener (10 Mawrth):

Brenhines y Sir – Sioned Caryl, CFfI Llanwenog

Ffermwr Ifanc y Flwyddyn – Dewi Davies, CFfI Llanddeiniol

Dirprwyon – Gwenyth Richards, CFfI Pontsiân; Angharad Evans, CFfI Mydroilyn; Angharad Davies, CFfI Trisant, ac Alaw Mair, CFfI Felin Fach

Bydd y chwech yn cael eu sefydlu yn eu rolau newydd ar lwyfan Rali CFfI Ceredigion yn Felin Fach ddechrau Mehefin.

Pob lwc am y flwyddyn a ddaw!

****

Fe gawson ni hefyd gwpwl o gemau o fingo ar y noson i gadw pawb yn hapus.

Diolch i Ffermwr Ifanc y Flwyddyn presennol CFfI Ceredigion, Cennydd Owen Jones, a’r dyn wrth y decs, Dan Morgan o CFfI Keyston yn Sir Benfro, am lywio’r cyfan.

Bingo + Ffermwyr Ifanc = lot o sbort!